Cydymaith Ymchwil
Ysgol y Dyniaethau Byd-eang
Mae cyfle cyffrous newydd wedi codi i Cydymaith Ymchwil ymuno â'r Ysgol y Dyniaethau Byd-eang. Bydd y rôl hon yn gyfrifol am gynnal ymchwil mewn dadansoddi aml-isotop, gan weithio ar weddillion ffawna o'r Oesoedd Canol cynnar i gyfrannu at astudiaeth rheoli anifeiliaid a dalgylchoedd ffawna. Mae'r ymchwil yn rhan o’r prosiect ‘Ecologies of Governance’ a ariennir gan AHRC, a bydd deiliad y rôl yn cyfrannu at waith ymchwil sy’n arwain at gyhoeddi ymchwil o safon, a chyflawni amcanion y prosiect yn ôl y gofyn gan arweinydd tîm y prosiect. Dilyn rhagoriaeth mewn ymchwil ac ysbrydoli eraill i wneud yr un fath.
Mae'r swydd hon yn llyn amser (35 awr yr wythnos), yngontract tymor penodol am 16 mis, gyda dyddiad dechrau ar 1 Ebrill 2027 tan 31 Gorffennaf 2028.
Mae Prifysgol Caerdydd yn cynnig llawer o fanteision rhagorol, gan gynnwys 45 diwrnod o wyliau blynyddol (gan gynnwys gwyliau banc), gweithio cyfunol (sy'n golygu y byddwch yn gallu gweithio gartref am beth o'ch amser), cynllun beicio i'r gwaith a mentrau teithio eraill, cynyddiadau blynyddol i fyny'r raddfa gyflog, a mwy. Mae'n lle cyffrous a bywiog i weithio, gyda llawer o heriau gwahanol ac mae'n gefnogwr Cyflog Byw balch.
Am drafodaeth anffurfiol am y rôl, cysylltwch â Athro Richard Magwick - MadgwickRD3@caerdydd.ac.uk. Gellir anfon ymholiadau anffurfiol mewn perthynas â'r broses recriwtio/ ymgeisio at [email protected].
Cyflog: £41,885 - £46,970 y flwyddyn (Gradd 6). Rydym yn rhagweld y bydd y swydd hon yn dechrau ar waelod y gradd.
Dyddiad hysbysebu: Dydd Gwener, 20 Tachwedd 2026
Dyddiad cau: Dydd Sul, 6 Rhagfyr 2026
Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth a chreu gweithle cynhwysol. Rydym o’r farn bod modd gwneud hyn drwy ddenu, datblygu a chadw ystod amrywiol o bobl o lawer o gefndiroedd gwahanol. Felly, rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob rhan o’r gymuned, beth bynnag fo’u rhyw, eu hethnigrwydd, eu hanabledd, eu cyfeiriadedd rhywiol, eu hunaniaeth draws, statws eu perthynas, eu crefydd neu eu cred, eu cyfrifoldebau gofalu neu eu hoedran. Rydym yn croesawu ac yn annog ceisiadau yn arbennig gan y rhai o grwpiau nad ydynt wedi’u cynrychioli’n ddigonol o fewn gweithlu'r Brifysgol, fel y rhai sy'n uniaethu fel LGBT+, o gefndiroedd ethnig leiafrifol neu'r rhai ag anableddau. Er mwyn helpu ein cyflogeion i sicrhau cydbwysedd rhwng eu gwaith a’u bywydau personol, byddwn hefyd yn ystyried cynigion i weithio’n hyblyg neu rannu swydd.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn Gymraeg, ac ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Mae Prifysgol Caerdydd wedi llofnodi Datganiad ar Asesu Ymchwil (DORA) San Francisco, sy'n golygu y byddwn, wrth wneud penderfyniadau cyflogi a dyrchafu, yn gwerthuso ymgeiswyr ar sail safon eu hymchwil, nid ar sail metrigau cyhoeddi na'r cyfnodolyn y mae'r ymchwil wedi’i chyhoeddi ynddo. Ceir rhagor o wybodaeth yma: Asesu ymchwil yn gyfrifol - Ymchwil - Prifysgol Caerdydd