Cynorthwyydd Ymchwil –
Electroneg RF-GaN
Ysgol Peirianneg Caerdydd
Mae'r Ganolfan Peirianneg Amledd Uchel (CHFE), yn Ysgol Peirianneg
Prifysgol Caerdydd, ar y cyd ag IQE, yn awyddus i recriwtio ymchwilydd
brwdfrydig iawn i gyfrannu at raglen ymchwil a datblygu gyffrous a
chydweithredol ym maes electroneg amledd uchel.
Mae'r bartneriaeth strategol hon yn dwyn ynghyd arbenigedd academaidd ac
arweinyddiaeth ddiwydiannol i ddarparu technolegau arloesol sy'n cyd-fynd â
blaenoriaethau'r ddau sefydliad. Mae IQE yn arweinydd byd-eang ym maes
cynhyrchion wafferi a gwasanaethau epitacsiol ar gyfer y diwydiant
lled-ddargludyddion, gan ganolbwyntio ar ddeunyddiau epitacsiol uwch, yn
enwedig Galiwm Nitrid (GaN) ar gyfer cymwysiadau amledd radio (RF).
Bydd y rôl yn cynnwys cynnal ymchwil i ddatblygu dyfeisiau perfformiad
uchel ar gyfer cymwysiadau cyfathrebu a synhwyro'r genhedlaeth nesaf gan
ddefnyddio platfformau technoleg GaN RF. Bydd cyfle hefyd i gydweithio'n agos â
thimau amlddisgyblaethol, gan gynnwys arbenigwyr nodweddu a dylunio cylchedau
yn y CHFE, er mwyn sicrhau bod dyfeisiau'n cael eu datblygu’n effeithiol a
dilysu perfformiad.
Ynglŷn â’r Amgylchedd
Mae'r rôl hon yn cynnig y cyfle i weithio mewn amgylchedd ymchwil deinamig
a chydweithredol ym Mhrifysgol Caerdydd, gyda chysylltiadau cryf â diwydiant.
Bydd y rôl yn cynnwys gweithredu, datblygu a gwella prosesau creu dyfeisiau RF
GaN, gan ddefnyddio modiwlau micro-a nano-greu yng nghyfleuster ystafell lân
o’r radd flaenaf y Sefydliad Lled-ddargludyddion Cyfansawdd (ICS) a agorwyd yn
ddiweddar https://www.caerdydd.ac.uk/institute-compound-semiconductors.
Swydd amser llawn (35 awr yr wythnos) yw hon, sydd ar gael ar unwaith ac am
gyfnod penodol tan 31 Rhagfyr 2029.
Cyflog: £41,885 – £46,970 y flwyddyn (Gradd 6). Nid ydym yn disgwyl penodi
rhywun uwchlaw pwynt 32 ar y raddfa gyflog, sy’n talu £41,064 y flwyddyn.
Os hoffech wneud ymholiadau anffurfiol ynghylch y swydd, cysylltwch â'r Athro
Khaled Elgaid, ([email protected])
I gael rhagor o fanylion ynghylch gweithio yn Ysgol Peirianneg Caerdydd,
e-bostiwch Catherine Parker [email protected]
Dyddiad hysbysebu: Dydd Gwener, 20 Tachwedd 2026
Dyddiad cau: Dydd Sul, 6 Rhagfyr 2026
Mae Ysgol Peirianneg Prifysgol Caerdydd yn meddu ar Ddyfarniad Arian Athena SWAN sy'n cydnabod arferion cyflogaeth da ac ymrwymiad i ddatblygu gyrfaoedd menywod ym maes gwyddoniaeth. Cyflogwr cyfle cyfartal yw Prifysgol Caerdydd
sy’n annog ceisiadau gan unigolion cymwys heb ystyried rhyw, hil, anabledd,
oedran, cyfeiriadedd rhywiol, ailbennu rhywedd, crefydd neu gred, statws
priodasol neu feichiogrwydd a mamolaeth. Rydym yn annog menywod i wneud cais am
y swydd. Byddwn hefyd yn ystyried cynigion i rannu’r swydd neu weithio’n
hyblyg.
Mae Prifysgol Caerdydd wedi llofnodi Datganiad ar Asesu Ymchwil (DORA) San Francisco, sy'n golygu y byddwn, wrth wneud penderfyniadau cyflogi a dyrchafu, yn gwerthuso ymgeiswyr ar sail safon eu hymchwil, nid ar sail metrigau cyhoeddi na'r cyfnodolyn y mae'r ymchwil wedi’i chyhoeddi ynddo. Ceir rhagor o wybodaeth yma: Asesu ymchwil yn gyfrifol - Ymchwil - Prifysgol Caerdydd
Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth a chreu gweithle cynhwysol. Rydym o’r farn bod modd gwneud hyn drwy ddenu, datblygu a chadw ystod amrywiol o bobl o lawer o gefndiroedd gwahanol. Felly, rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob rhan o’r gymuned, beth bynnag fo’u rhyw, eu hethnigrwydd, eu hanabledd, eu cyfeiriadedd rhywiol, eu hunaniaeth draws, statws eu perthynas, eu crefydd neu eu cred, eu cyfrifoldebau gofalu neu eu hoedran. Rydym yn croesawu ac yn annog ceisiadau yn arbennig gan y rhai o grwpiau nad ydynt wedi’u cynrychioli’n ddigonol o fewn gweithlu'r Brifysgol, fel y rhai sy'n uniaethu fel LGBT+, o gefndiroedd ethnig leiafrifol neu'r rhai ag anableddau. Er mwyn helpu ein cyflogeion i sicrhau cydbwysedd rhwng eu gwaith a’u bywydau personol, byddwn hefyd yn ystyried cynigion i weithio’n hyblyg neu rannu swydd.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn Gymraeg, ac ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.