Rydym yn chwilio am unigolyn brwdfrydig a rhagweithiol sy’n gallu addasu i flaenoriaethau sy'n newid wrth gynnal cysondeb ar draws gweithgarwch o ddydd i ddydd. Mae'r rôl hon yn gofyn am sgiliau trefnu a chydlynu rhagorol, ymwybyddiaeth, disgresiwn, a'r gallu i weithio mewn amgylchedd cyflym sy'n canolbwyntio ar y dyfodol.
Bydd deiliad y swydd yn defnyddio barn annibynnol wrth reoli gofynion cystadleuol, asesu blaenoriaethau a phenderfynu ar gamau gweithredu priodol ar ran y Rhag Is-ganghellor. Bydd yn gweithredu fel porthor dibynadwy, gan sicrhau bod amser y Rhag Is-ganghellor yn canolbwyntio ar flaenoriaethau strategol yn ogystal â nodi ac uwchgyfeirio materion a chyfleoedd sy'n dod i'r amlwg yn ôl yr angen.
Byddwch yn darparu gwasanaeth cynorthwyo personol a chymorth gweithredol proffesiynol a chyfrinachol o safon i aelodau Swyddfa'r Is-ganghellor. Bydd y swydd hon yn darparu cefnogaeth benodol i'r Rhag Is-ganghellor Addysg a Phrofiad y Myfyrwyr, yn ogystal â'i dimau. Bydd angen i chi hefyd gydweithio'n agos â chydweithwyr ar draws y Brifysgol sy'n cefnogi gwaith y Rhag Is-ganghellor, a gweithio ar y cyd fel rhan o dimau cynorthwyo personol yr Is-ganghellor a'r Rhag Is-ganghellor i sicrhau cefnogaeth esmwyth a chyson ar draws Swyddfa’r Is-ganghellor.
Bydd y Cynorthwyydd Personol yn bwynt cyswllt allweddol ar draws y Gwasanaethau Proffesiynol hynny sy'n cefnogi gwaith y Rhag Is-ganghellor, arweinyddiaeth academaidd, a phartneriaid allanol. Bydd yn sicrhau bod blaenoriaethau'r Rhag Is-ganghellor yn cael eu cyflawni'n effeithiol a bod gweithgarwch cyfathrebu, cydlynu a gwneud penderfyniadau yn llifo'n esmwyth ar draws portffolio eang a chymhleth.
Bydd yn atebol i'r Rhag Is-ganghellor perthnasol, a’r Cynorthwyydd Gweithredol i'r Prif Swyddog Gweithredu ac Ysgrifennydd y Brifysgol fydd y rheolwr llinell. Bydd deiliad y swydd yn darparu cefnogaeth i’r Cynorthwyydd Gweithredol pan fo angen.
Swydd amser llawn yw hon ac mae’n gymwys ar gyfer gweithio cyfunol. Mae hyn yn golygu y byddwch yn treulio o leiaf 3 diwrnod ar y campws (Prif Adeilad) a gallwch ddewis treulio peth amser yn gweithio o leoliad arall, fel eich cartref, am weddill yr wythnos. Gellir trafod trefniadau penodol yn dilyn y penodiad. Mae’r Brifysgol wedi ymrwymo i gynnig yr hyblygrwydd hwn pan fo’r swydd ac anghenion y busnes yn caniatáu, a hynny er mwyn sicrhau cydbwysedd rhwng y gwaith a’ch bywyd personol.
Cyflog: £28,592 - £31,861 y flwyddyn (Gradd 4)
I wneud ymholiad anffurfiol, cysylltwch â Rhiân Murphy at [email protected]
Dyddiad hysbysebu: Dydd Gwener, 20 Tachwedd 2026
Dyddiad cau: Dydd Iau, 26 Tachwedd 2026
Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth a chreu gweithle cynhwysol. Rydym o’r farn bod modd gwneud hyn drwy ddenu, datblygu a chadw ystod amrywiol o bobl o lawer o gefndiroedd gwahanol. Felly, rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob rhan o’r gymuned, beth bynnag fo’u rhyw, eu hethnigrwydd, eu hanabledd, eu cyfeiriadedd rhywiol, eu hunaniaeth draws, statws eu perthynas, eu crefydd neu eu cred, eu cyfrifoldebau gofalu neu eu hoedran. Rydym yn croesawu ac yn annog ceisiadau yn arbennig gan y rhai o grwpiau nad ydynt wedi’u cynrychioli’n ddigonol o fewn gweithlu'r Brifysgol, fel y rhai sy'n uniaethu fel LGBT+, o gefndiroedd ethnig leiafrifol neu'r rhai ag anableddau. Er mwyn helpu ein cyflogeion i sicrhau cydbwysedd rhwng eu gwaith a’u bywydau personol, byddwn hefyd yn ystyried cynigion i weithio’n hyblyg neu rannu swydd.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn Gymraeg, ac ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.