Peiriannydd Prosesau ICS
Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth Caerdydd
Rydym yn ceisio recriwtio peiriannydd prosesau i ymuno â'r Sefydliad Lled-ddargludyddion Cyfansawdd (ICS) ICS | Sefydliad Lled-ddargludyddion Cyfansawdd
Rydyn ni’n sefydliad sy’n arwain Ewrop wrth wneud lled-ddargludyddion cyfansawdd, yn ein hystafell lân newydd yng Nghyfleuster Ymchwil Drosi Prifysgol Caerdydd. Gall ymchwilwyr a diwydiant fel ei gilydd ddefnyddio’r ystafell lân fel y maen nhw’n dymuno, ar gyfer datblygu rhagoriaeth ymchwil yn ddyfeisiau ymarferol y gellir eu gweithgynhyrchu ac is-systemau integredig ar gyfer dyfeisiau optoelectroneg a dyfeisiau electronig.
Yn y swydd hon, byddwch chi’n dilyn ac yn gweithredu prosesau creu newydd a disgwylir i chi sefydlu methodolegau rheoli prosesau i fonitro perfformiad a chynhyrchiant, ac i gynnal gallu prosesau. Bydd gennych arbenigedd sefydledig a phortffolio diamheuol o sgiliau gwneud dyfeisiau mewn ystafell lân, yn enwedig gwybodaeth am ffotolithograffeg, ysgythru plasma deunyddiau III-V a dyddodi drwy PVD a PECVD. Byddai gwybodaeth/profiad o deneuo wafferi a gwahanu deis yn fantais.
Efallai y bydd gofyn i chi ymgymryd â dyletswyddau rydych chi'n gymwys ar eu cyfer mewn lleoliadau eraill yn y Brifysgol neu yn un o'i sefydliadau partner trawswladol dramor. Cyfeiriwch at y disgrifiad swydd am ragor o fanylion.
Swydd amser llawn a phenagored (35 awr yr wythnos) yw hon ac mae modd dechrau ar unwaith.
Cyflog: £41,885 - £46,970, y flwyddyn (Gradd 6). Ni ragwelir y dylid gwneud apwyntiad uwchlaw £41,885 y flwyddyn, pwynt 6.32.
Gellir gwneud ymholiadau anffurfiol i Dr Angela Sobiesierski [email protected] neu Chris Matthews [email protected]
Os oes gennych ymholiad anffurfiol ynghylch gweithio yn Ysgol y Gwyddorau Ffisegol, Cemegol ac Amgylcheddol cysylltwch â [email protected]
WYSIG: Tystiolaeth o Fodloni'r Meini Prawf
Dylai ymgeiswyr ddangos tystiolaeth o fodloni'r HOLL feini prawf hanfodol, yn ogystal â'r meini prawf dymunol lle bo'n berthnasol.
Yn rhan o’r broses ymgeisio, bydd gofyn i chi roi’r dystiolaeth hon ar ffurf datganiad ategol. Wrth gyflwyno'r ddogfen hon neu ei hatodi i broffil eich cais, dylech sicrhau mai cyfeirnod y swydd yw enw’r ddogfen.
Dyddiad hysbysebu: Dydd Gwener, 20 Tachwedd 2026
Dyddiad cau: Dydd Sul, 6 Rhagfyr 2026
Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth a chreu gweithle cynhwysol. Rydym o’r farn bod modd gwneud hyn drwy ddenu, datblygu a chadw ystod amrywiol o bobl o lawer o gefndiroedd gwahanol. Felly, rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob rhan o’r gymuned, beth bynnag fo’u rhyw, eu hethnigrwydd, eu hanabledd, eu cyfeiriadedd rhywiol, eu hunaniaeth draws, statws eu perthynas, eu crefydd neu eu cred, eu cyfrifoldebau gofalu neu eu hoedran. Rydym yn croesawu ac yn annog ceisiadau yn arbennig gan y rhai o grwpiau nad ydynt wedi’u cynrychioli’n ddigonol o fewn gweithlu'r Brifysgol, fel y rhai sy'n uniaethu fel LGBT+, o gefndiroedd ethnig leiafrifol neu'r rhai ag anableddau. Er mwyn helpu ein cyflogeion i sicrhau cydbwysedd rhwng eu gwaith a’u bywydau personol, byddwn hefyd yn ystyried cynigion i weithio’n hyblyg neu rannu swydd.
Mae Prifysgol Caerdydd wedi llofnodi Datganiad San Francisco ar Asesu Ymchwil (DORA), sy'n golygu y byddwn, wrth wneud penderfyniadau i gyflogi a dyrchafu, yn gwerthuso ymgeiswyr ar sail safon eu hymchwil, ac nid ar sail metrigau cyhoeddi na'r cyfnodolyn y mae'r ymchwil wedi’i chyhoeddi ynddo. Cewch ragor o wybodaeth yma: Asesu ymchwil yn gyfrifol - Ymchwil - Prifysgol Caerdydd
Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg, ac ni fydd cais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Rydym yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg yn fawr.