• Advertising End DateAdvertising End Date:
    10 Ion 2027
  • Grŵp SwyddiGrŵp Swyddi
    Academaidd (gan gynnwys Addysgu, Ymchwil a Graddedigion)
  • Math o Swydd
    Ymchwil
  • ID Swydd WagID Swydd Wag:
    1173
  • Cyflog a hysbysebirManylion y Cyflog:
    £43,202 to £48,625 per year
  • Statws ContractStatws Contract
    Llawn Amser
  • Math o GontractMath o Gontract:
    Tymor Sefydlog
  • Hysbyseb Swydd

  • Ymgeisydd Doethurol Marie-Skłodowska-Curie Actions (DC14)

    Ysgol Busnes Caerdydd, Prifysgol Caerdydd

    Gwahoddir ymgeiswyr am swydd Ymgeisydd Doethurol yn y Rhwydwaith, TRAIN-FAST (Hyfforddi ymchwilwyr mewn systemau gwefru batri cyflym iawn sy’n ddiogel, yn wydn ac yn economaidd hyfyw, https://train-fast.dtu.dk/) yn Ysgol Busnes Caerdydda ariennir gan Rwydwaith Doethurol Gweithredoedd Marie-Skłodowska-Curie y Comisiwn Ewropeaidd. Bydd y prosiect hwn yn archwilio arloesedd modelau busnes ar gyfer defnyddio gwefru cyflym iawn, rôl y llywodraeth a chwaraewyr cymdeithasol mewn ardaloedd nad ydynt yn cael eu gwasanaethu ddigon, ac amodau ar gyfer cyllid gwyrdd sefydlog. Bydd yn:

    1.          Dadansoddi sut y gall chwaraewyr cymdeithasol gydweithio i gyflymu dulliau mabwysiadu UFC;

    2.          Nodi anghydraddoldebau cymdeithasol posibl sy'n gysylltiedig â chyflwyno UFC a chynnig strategaethau lliniaru;

    3.          Datblygu strategaethau i leihau risg buddsoddiadau UFC drwy bolisi, cyllid a chydlynu;

    4.          Creu model deinamig o gyfanswm cost perchnogaeth sy'n nodi ffactorau sy'n amrywio o ran amser ac sy'n ansicr

    Canlyniadau disgwyliedig:

    (i)          Cyfres o gynlluniau polisi/rheoleiddio;

    (ii)         Adroddiad ar rôl y llywodraeth a chwaraewyr cymdeithasol wrth hyrwyddo nifer y bobl sy'n manteisio ar UFC mewn ardaloedd nad ydynt wedi’u gwasanaethu ddigon a sicrhau amodau sefydlog ar gyfer cyllid gwyrdd;

    (iii)        Model deinamig o gyfanswm cost perchnogaeth.


    Mae'r swydd hon yn un tymor penodol am 36 mis, sy'n cynnwys dau secondiad wedi'u cynllunio:

    (1) secondiad academaidd yn y brifysgol sy'n cyd-oruchwylio, Politecnico di Torino POLITO (Yr Eidal) a

    (2) secondiad anacademaidd yn y corff rhanbarthol, Prifddinas-Ranbarth Caerdydd. Bydd yr ymgeisydd wedi'i gofrestru ar gyfer PhD ym Mhrifysgol Caerdydd (Cymru, y DU) yn ogystal â chael ei gyflogi gan Brifysgol Caerdydd.

    Cyflog: £43,202 i £48,625 y flwyddyn

    Lwfans Symudedd: £,5994.72 y flwyddyn.

    Lwfans Teulu (os yn berthnasol): £5,575.56 y flwyddyn

    I gael sgwrs anffurfiol ynghylch y swydd, cysylltwch â'r Athro Peter Wells ([email protected]).

    Gwybodaeth Ychwanegol
    Prosiect Rhwydwaith Doethurol Marie-Skłodowska-Curie Actions Horizon Europe y Comisiwn Ewropeaidd yw hwn.  Dyma’r rheolau ar gyfer recriwtio:

    Rheol Symudedd MSCA: Ni ddylai ymgeiswyr fod wedi byw nac wedi cyflawni eu prif weithgaredd (gweithio neu astudio) yng ngwlad y sefydliad sy'n recriwtio (ar gyfer y swydd hon, y DU) am fwy na 12 mis yn y 36 mis yn union cyn y dyddiad recriwtio. Ni chaiff arosiadau byr, fel gwyliau, eu hystyried, na chwaith amser a dreulir fel rhan o weithdrefn i gael statws ffoadur o dan Gonfensiwn Genefa.

    Rheol Ymgeiswyr Doethurol: Ni ddylai ymgeiswyr fod â gradd doethurol eisoes ar y dyddiad recriwtio. Ni fydd ymchwilwyr sydd wedi amddiffyn eu traethawd doethurol yn llwyddiannus ond nad ydynt wedi derbyn y radd doethurol yn ffurfiol eto yn gymwys.

    NI ellir ystyried ymgeiswyr nad ydynt yn bodloni'r Rheol Symudedd a'r Meini Prawf Cymhwysedd.

    Yn ddelfrydol, bydd yr ymgeisydd doethurol yn dechrau’r broses ymrestru a chyflogaeth ar gyfer PhD ar 1 Ebrill 2027, 1 Mehefin 2027 neu 1 Hydref 2027.

    PWYSIG: Meini Prawf Tystiolaeth
    Wrth gyflwyno eich cais, dangoswch sut rydych chi'n bodloni'r holl feini prawf hanfodol, a gwnewch yn siŵr eich bod chi'n enwi eich Datganiad Ategol gyda chyfeirnod y swydd wag.  

    Y broses ddethol

    Bydd ceisiadau'n cael eu hadolygu am gymhwysedd ac addasrwydd yn seiliedig ar y meini prawf.
    Bydd ymgeiswyr sydd wedi cyrraedd y rhestr fer yn cael eu gwahodd i gyfweliad ar-lein gyda'r pwyllgor recriwtio.

    Mae asesiadau annibynnol y llywodraeth yn cydnabod Prifysgol Caerdydd fel un o brifysgolion blaenllaw Prydain o ran addysgu ac ymchwil, ac mae'n aelod o’r Grŵp Russell, sef prifysgolion mwyaf gweithgar y DU ym maes ymchwil. Yn Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2021, nodwyd bod 90% o ymchwil y Brifysgol yn arwain y byd neu’n rhagorol yn rhyngwladol.  Ymhlith ei staff academaidd mae dau enillydd Gwobr Nobel, gan gynnwys enillydd Gwobr Nobel Meddygaeth 2007, yr Athro Syr Martin Evans. Sefydlwyd y Brifysgol yn sgil Siarter Frenhinol ym 1883. Heddiw, mae'n cyfuno cyfleusterau modern trawiadol ag agwedd ddeinamig at addysgu ac ymchwil. Mae ehangder arbenigedd y Brifysgol yn cwmpasu: Coleg y Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg, Coleg y Celfyddydau, y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol a Choleg y Gwyddorau Biofeddygol a Gwyddorau Bywyd. Mae sefydliadau’r Brifysgol yn dod ag academyddion o ystod o ddisgyblaethau ynghyd i fynd i'r afael â rhai o'r heriau mae’r gymdeithas, yr economi a'r amgylchedd yn eu hwynebu. Rhagor o wybodaeth: www.caerdydd.ac.uk

    Cyflogwr cyfle cyfartal yw Prifysgol Caerdydd sy’n annog ceisiadau gan unigolion cymwys heb ystyried rhyw, hil, anabledd, oedran, cyfeiriadedd rhywiol, ailbennu rhywedd, crefydd neu gred, statws priodasol neu feichiogrwydd a mamolaeth. Rydym yn annog menywod i wneud cais am y swydd. Byddwn hefyd yn ystyried cynigion ar gyfer gweithio’n hyblyg.

    Dyddiad hysbysebu: Dydd Gwener, 20 Tachwedd 2026
    Dyddiad cau: Dydd Sul, 10 Ionawr 2027
     
    Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth a chreu gweithle cynhwysol. Rydym o’r farn bod modd gwneud hyn drwy ddenu, datblygu a chadw ystod amrywiol o bobl o lawer o gefndiroedd gwahanol.  Felly, rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob rhan o’r gymuned, beth bynnag fo’u rhyw, eu hethnigrwydd, eu hanabledd, eu cyfeiriadedd rhywiol, eu hunaniaeth draws, statws eu perthynas, eu crefydd neu eu cred, eu cyfrifoldebau gofalu neu eu hoedran.  Rydym yn croesawu ac yn annog ceisiadau yn arbennig gan y rhai o grwpiau nad ydynt wedi’u cynrychioli’n ddigonol o fewn gweithlu'r Brifysgol, fel y rhai sy'n uniaethu fel LGBT+, o gefndiroedd ethnig leiafrifol neu'r rhai ag anableddau. Er mwyn helpu ein cyflogeion i sicrhau cydbwysedd rhwng eu gwaith a’u bywydau personol, byddwn hefyd yn ystyried cynigion i weithio’n hyblyg neu rannu swydd.
    Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn Gymraeg, ac ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
     
     Mae Prifysgol Caerdydd wedi llofnodi Datganiad San Francisco ar Asesu Ymchwil (DORA), sy'n golygu y byddwn, wrth wneud penderfyniadau am gyflogi a dyrchafu, yn gwerthuso ymgeiswyr ar sail safon eu hymchwil, nid ar sail metrigau cyhoeddi na'r cyfnodolyn y mae'r ymchwil wedi’i chyhoeddi ynddo. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma:  Asesu ymchwil yn gyfrifol – Ymchwil – Prifysgol Caerdydd.

Swyddi Eraill fel hyn

  • Dyddiad Postio'r SwyddDyddiad Postio'r Swydd:
    20 Tach 2026
  • Advertising End DateAdvertising End Date:
    10 Ion 2027
  • Grŵp SwyddiGrŵp Swyddi
    Academaidd (gan gynnwys Addysgu, Ymchwil a Graddedigion)
  • Math o Swydd
    Ymchwil
  • ID Swydd WagID Swydd Wag:
    1173
  • Cyflog a hysbysebirManylion y Cyflog:
    £43,202 to £48,625 per year
  • Statws ContractStatws Contract
    Llawn Amser
  • Math o GontractMath o Gontract:
    Tymor Sefydlog
Mwy o Wybodaeth
  • Dyddiad Postio'r SwyddDyddiad Postio'r Swydd:
    20 Tach 2026
  • Advertising End DateAdvertising End Date:
    06 Rhag 2026
  • Grŵp SwyddiGrŵp Swyddi
    Academaidd (gan gynnwys Addysgu, Ymchwil a Graddedigion)
  • Math o Swydd
    Ymchwil
  • ID Swydd WagID Swydd Wag:
    554
  • Cyflog a hysbysebirManylion y Cyflog:
    £41,885 - £46,970 per annum (Grade 6)
  • Statws ContractStatws Contract
    Llawn Amser
  • Math o GontractMath o Gontract:
    Tymor Sefydlog
Mwy o Wybodaeth
Diweddaraf

Personal Assistant

  • Dyddiad Postio'r SwyddDyddiad Postio'r Swydd:
    20 Tach 2026
  • Advertising End DateAdvertising End Date:
    26 Tach 2026
  • Grŵp SwyddiGrŵp Swyddi
    Gwasanaethau Proffesiynol (Rheoli, Gweinyddol, Arbenigwyr, Cymorth Technegol a Gweithrediadau)
  • Math o Swydd
    Cymorth Gweinyddol
  • ID Swydd WagID Swydd Wag:
    863
  • Cyflog a hysbysebirManylion y Cyflog:
    £28,592 - £31,861 per annum (Grade 4)
  • Statws ContractStatws Contract
    Llawn Amser
  • Math o GontractMath o Gontract:
    Penagored
Mwy o Wybodaeth
  • Dyddiad Postio'r SwyddDyddiad Postio'r Swydd:
    20 Tach 2026
  • Advertising End DateAdvertising End Date:
    06 Rhag 2026
  • Grŵp SwyddiGrŵp Swyddi
    Gwasanaethau Proffesiynol (Rheoli, Gweinyddol, Arbenigwyr, Cymorth Technegol a Gweithrediadau)
  • Math o Swydd
    Staff Rheoli, Proffesiynol ac Arbenigol
  • ID Swydd WagID Swydd Wag:
    900
  • Cyflog a hysbysebirManylion y Cyflog:
    £41,885 - £46,970 per annum (Grade 6)
  • Statws ContractStatws Contract
    Llawn Amser
  • Math o GontractMath o Gontract:
    Penagored
Mwy o Wybodaeth
  • Dyddiad Postio'r SwyddDyddiad Postio'r Swydd:
    20 Tach 2026
  • Advertising End DateAdvertising End Date:
    06 Rhag 2026
  • Grŵp SwyddiGrŵp Swyddi
    Academaidd (gan gynnwys Addysgu, Ymchwil a Graddedigion)
  • Math o Swydd
    Addysgu ac Ymchwil
  • ID Swydd WagID Swydd Wag:
    971
  • Cyflog a hysbysebirManylion y Cyflog:
    £52,788 - £57,666 per annum (Grade 7) or £62,994 - £68,817 per annum (Grade 8)
  • Statws ContractStatws Contract
    Llawn Amser
  • Math o GontractMath o Gontract:
    Penagored
Mwy o Wybodaeth
  • Dyddiad Postio'r SwyddDyddiad Postio'r Swydd:
    20 Tach 2026
  • Advertising End DateAdvertising End Date:
    06 Rhag 2026
  • Grŵp SwyddiGrŵp Swyddi
    Academaidd (gan gynnwys Addysgu, Ymchwil a Graddedigion)
  • Math o Swydd
    Ymchwil
  • ID Swydd WagID Swydd Wag:
    1023
  • Cyflog a hysbysebirManylion y Cyflog:
    £41,885 - £46,970 per annum (Grade 6)
  • Statws ContractStatws Contract
    Llawn Amser
  • Math o GontractMath o Gontract:
    Tymor Sefydlog
Mwy o Wybodaeth
  • Dyddiad Postio'r SwyddDyddiad Postio'r Swydd:
    20 Tach 2026
  • Advertising End DateAdvertising End Date:
    06 Rhag 2026
  • Grŵp SwyddiGrŵp Swyddi
    Academaidd (gan gynnwys Addysgu, Ymchwil a Graddedigion)
  • Math o Swydd
    Ymchwil
  • ID Swydd WagID Swydd Wag:
    1025
  • Cyflog a hysbysebirManylion y Cyflog:
    £34,630 - £37,369 per annum (Grade 5)
  • Statws ContractStatws Contract
    Llawn Amser
  • Math o GontractMath o Gontract:
    Tymor Sefydlog
Mwy o Wybodaeth
Diweddaraf

Research Associate

  • Dyddiad Postio'r SwyddDyddiad Postio'r Swydd:
    20 Tach 2026
  • Advertising End DateAdvertising End Date:
    06 Rhag 2026
  • Grŵp SwyddiGrŵp Swyddi
    Academaidd (gan gynnwys Addysgu, Ymchwil a Graddedigion)
  • Math o Swydd
    Ymchwil
  • ID Swydd WagID Swydd Wag:
    1060
  • Cyflog a hysbysebirManylion y Cyflog:
    £41,885 - £46,970 per annum, pro-rata for hours worked (Grade 6)
  • Statws ContractStatws Contract
    Rhan-amser
  • Math o GontractMath o Gontract:
    Tymor Sefydlog
Mwy o Wybodaeth
Diweddaraf

Research Associate

  • Dyddiad Postio'r SwyddDyddiad Postio'r Swydd:
    20 Tach 2026
  • Advertising End DateAdvertising End Date:
    06 Rhag 2026
  • Grŵp SwyddiGrŵp Swyddi
    Academaidd (gan gynnwys Addysgu, Ymchwil a Graddedigion)
  • Math o Swydd
    Ymchwil
  • ID Swydd WagID Swydd Wag:
    1063
  • Cyflog a hysbysebirManylion y Cyflog:
    £41,885 - £46,970 per annum (Grade 6)
  • Statws ContractStatws Contract
    Llawn Amser
  • Math o GontractMath o Gontract:
    Tymor Sefydlog
Mwy o Wybodaeth
  • Dyddiad Postio'r SwyddDyddiad Postio'r Swydd:
    20 Tach 2026
  • Advertising End DateAdvertising End Date:
    06 Rhag 2026
  • Grŵp SwyddiGrŵp Swyddi
    Academaidd (gan gynnwys Addysgu, Ymchwil a Graddedigion)
  • Math o Swydd
    Ymchwil
  • ID Swydd WagID Swydd Wag:
    1090
  • Cyflog a hysbysebirManylion y Cyflog:
    £34,630 - £37,369 per annum, pro rata for hours worked (Grade 5)
  • Statws ContractStatws Contract
    Rhan-amser
  • Math o GontractMath o Gontract:
    Tymor Sefydlog
Mwy o Wybodaeth