Ysgol Busnes Caerdydd, Prifysgol Caerdydd
Gwahoddir ymgeiswyr am swydd Ymgeisydd Doethurol yn y Rhwydwaith, TRAIN-FAST (Hyfforddi ymchwilwyr mewn systemau gwefru batri cyflym iawn sy’n ddiogel, yn wydn ac yn economaidd hyfyw, https://train-fast.dtu.dk/) yn Ysgol Busnes Caerdydda ariennir gan Rwydwaith Doethurol Gweithredoedd Marie-Skłodowska-Curie y Comisiwn Ewropeaidd. Bydd y prosiect hwn yn archwilio arloesedd modelau busnes ar gyfer defnyddio gwefru cyflym iawn, rôl y llywodraeth a chwaraewyr cymdeithasol mewn ardaloedd nad ydynt yn cael eu gwasanaethu ddigon, ac amodau ar gyfer cyllid gwyrdd sefydlog. Bydd yn:
1. Dadansoddi sut y gall chwaraewyr cymdeithasol gydweithio i gyflymu dulliau mabwysiadu UFC;
2. Nodi anghydraddoldebau cymdeithasol posibl sy'n gysylltiedig â chyflwyno UFC a chynnig strategaethau lliniaru;
3. Datblygu strategaethau i leihau risg buddsoddiadau UFC drwy bolisi, cyllid a chydlynu;
4. Creu model deinamig o gyfanswm cost perchnogaeth sy'n nodi ffactorau sy'n amrywio o ran amser ac sy'n ansicr
Canlyniadau disgwyliedig:
(i) Cyfres o gynlluniau polisi/rheoleiddio;
(ii) Adroddiad ar rôl y llywodraeth a chwaraewyr cymdeithasol wrth hyrwyddo nifer y bobl sy'n manteisio ar UFC mewn ardaloedd nad ydynt wedi’u gwasanaethu ddigon a sicrhau amodau sefydlog ar gyfer cyllid gwyrdd;
(iii) Model deinamig o gyfanswm cost perchnogaeth.
Mae'r swydd hon yn un tymor penodol am 36 mis, sy'n cynnwys dau secondiad wedi'u cynllunio:
(1) secondiad academaidd yn y brifysgol sy'n cyd-oruchwylio, Politecnico di Torino POLITO (Yr Eidal) a
(2) secondiad anacademaidd yn y corff rhanbarthol, Prifddinas-Ranbarth Caerdydd. Bydd yr ymgeisydd wedi'i gofrestru ar gyfer PhD ym Mhrifysgol Caerdydd (Cymru, y DU) yn ogystal â chael ei gyflogi gan Brifysgol Caerdydd.
Cyflog: £43,202 i £48,625 y flwyddyn
Lwfans Symudedd: £,5994.72 y flwyddyn.
Lwfans Teulu (os yn berthnasol): £5,575.56 y flwyddyn
I gael sgwrs anffurfiol ynghylch y swydd, cysylltwch â'r Athro Peter Wells ([email protected]).
Gwybodaeth Ychwanegol
Prosiect Rhwydwaith Doethurol Marie-Skłodowska-Curie Actions Horizon Europe y Comisiwn Ewropeaidd yw hwn. Dyma’r rheolau ar gyfer recriwtio:
Rheol Symudedd MSCA: Ni ddylai ymgeiswyr fod wedi byw nac wedi cyflawni eu prif weithgaredd (gweithio neu astudio) yng ngwlad y sefydliad sy'n recriwtio (ar gyfer y swydd hon, y DU) am fwy na 12 mis yn y 36 mis yn union cyn y dyddiad recriwtio. Ni chaiff arosiadau byr, fel gwyliau, eu hystyried, na chwaith amser a dreulir fel rhan o weithdrefn i gael statws ffoadur o dan Gonfensiwn Genefa.
Rheol Ymgeiswyr Doethurol: Ni ddylai ymgeiswyr fod â gradd doethurol eisoes ar y dyddiad recriwtio. Ni fydd ymchwilwyr sydd wedi amddiffyn eu traethawd doethurol yn llwyddiannus ond nad ydynt wedi derbyn y radd doethurol yn ffurfiol eto yn gymwys.
NI ellir ystyried ymgeiswyr nad ydynt yn bodloni'r Rheol Symudedd a'r Meini Prawf Cymhwysedd.
Yn ddelfrydol, bydd yr ymgeisydd doethurol yn dechrau’r broses ymrestru a chyflogaeth ar gyfer PhD ar 1 Ebrill 2027, 1 Mehefin 2027 neu 1 Hydref 2027.
PWYSIG: Meini Prawf Tystiolaeth
Wrth gyflwyno eich cais, dangoswch sut rydych chi'n bodloni'r holl feini prawf hanfodol, a gwnewch yn siŵr eich bod chi'n enwi eich Datganiad Ategol gyda chyfeirnod y swydd wag.
Y broses ddethol
Bydd ceisiadau'n cael eu hadolygu am gymhwysedd ac addasrwydd yn seiliedig ar y meini prawf.
Bydd ymgeiswyr sydd wedi cyrraedd y rhestr fer yn cael eu gwahodd i gyfweliad ar-lein gyda'r pwyllgor recriwtio.
Mae asesiadau annibynnol y llywodraeth yn cydnabod Prifysgol Caerdydd fel un o brifysgolion blaenllaw Prydain o ran addysgu ac ymchwil, ac mae'n aelod o’r Grŵp Russell, sef prifysgolion mwyaf gweithgar y DU ym maes ymchwil. Yn Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2021, nodwyd bod 90% o ymchwil y Brifysgol yn arwain y byd neu’n rhagorol yn rhyngwladol. Ymhlith ei staff academaidd mae dau enillydd Gwobr Nobel, gan gynnwys enillydd Gwobr Nobel Meddygaeth 2007, yr Athro Syr Martin Evans. Sefydlwyd y Brifysgol yn sgil Siarter Frenhinol ym 1883. Heddiw, mae'n cyfuno cyfleusterau modern trawiadol ag agwedd ddeinamig at addysgu ac ymchwil. Mae ehangder arbenigedd y Brifysgol yn cwmpasu: Coleg y Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg, Coleg y Celfyddydau, y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol a Choleg y Gwyddorau Biofeddygol a Gwyddorau Bywyd. Mae sefydliadau’r Brifysgol yn dod ag academyddion o ystod o ddisgyblaethau ynghyd i fynd i'r afael â rhai o'r heriau mae’r gymdeithas, yr economi a'r amgylchedd yn eu hwynebu. Rhagor o wybodaeth: www.caerdydd.ac.uk
Cyflogwr cyfle cyfartal yw Prifysgol Caerdydd sy’n annog ceisiadau gan unigolion cymwys heb ystyried rhyw, hil, anabledd, oedran, cyfeiriadedd rhywiol, ailbennu rhywedd, crefydd neu gred, statws priodasol neu feichiogrwydd a mamolaeth. Rydym yn annog menywod i wneud cais am y swydd. Byddwn hefyd yn ystyried cynigion ar gyfer gweithio’n hyblyg.
Dyddiad hysbysebu: Dydd Gwener, 20 Tachwedd 2026
Dyddiad cau: Dydd Sul, 10 Ionawr 2027
Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth a chreu gweithle cynhwysol. Rydym o’r farn bod modd gwneud hyn drwy ddenu, datblygu a chadw ystod amrywiol o bobl o lawer o gefndiroedd gwahanol. Felly, rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob rhan o’r gymuned, beth bynnag fo’u rhyw, eu hethnigrwydd, eu hanabledd, eu cyfeiriadedd rhywiol, eu hunaniaeth draws, statws eu perthynas, eu crefydd neu eu cred, eu cyfrifoldebau gofalu neu eu hoedran. Rydym yn croesawu ac yn annog ceisiadau yn arbennig gan y rhai o grwpiau nad ydynt wedi’u cynrychioli’n ddigonol o fewn gweithlu'r Brifysgol, fel y rhai sy'n uniaethu fel LGBT+, o gefndiroedd ethnig leiafrifol neu'r rhai ag anableddau. Er mwyn helpu ein cyflogeion i sicrhau cydbwysedd rhwng eu gwaith a’u bywydau personol, byddwn hefyd yn ystyried cynigion i weithio’n hyblyg neu rannu swydd.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn Gymraeg, ac ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Mae Prifysgol Caerdydd wedi llofnodi Datganiad San Francisco ar Asesu Ymchwil (DORA), sy'n golygu y byddwn, wrth wneud penderfyniadau am gyflogi a dyrchafu, yn gwerthuso ymgeiswyr ar sail safon eu hymchwil, nid ar sail metrigau cyhoeddi na'r cyfnodolyn y mae'r ymchwil wedi’i chyhoeddi ynddo. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma: Asesu ymchwil yn gyfrifol – Ymchwil – Prifysgol Caerdydd.