Ymgeisydd Doethurol Marie-Skłodowska-Curie Actions (DC13)
Ysgol Peirianneg Prifysgol Caerdydd
Gwahoddir ymgeiswyr am swydd Ymgeisydd Doethurol yn y Rhwydwaith, TRAIN-FAST (Hyfforddi ymchwilwyr mewn systemau gwefru batri cyflym iawn sy’n ddiogel, yn wydn ac yn economaidd hyfyw) yn Ysgol Peirianneg Caerdydd a ariennir gan Rwydwaith Doethurol Gweithredoedd Marie-Skłodowska-Curie y Comisiwn Ewropeaidd.
Nod y swydd yw'r canlynol, gan arwain at radd PhD:
- Datblygu strategaethau gweithredol sy'n ymwybodol o'r grid ar gyfer gorsafoedd gwefru cerbydau trydan cyflym iawn, gan ystyried ymddygiad gwefru a yrrir gan ddefnyddwyr ac effeithiau ar y grid;
- Datblygu dull asesu technoleg-economaidd ar gyfer gwerthuso hyfywedd defnyddio dulliau gwefru cyflym iawn gan ystyried ansicrwydd ynni adnewyddadwy a chyfyngiadau’r grid;
- Cyflwyno fframweithiau modelu dilys ar gyfer dadansoddi hyfywedd technoleg-economaidd gorsafoedd gwefru cyflym iawn yn y system bŵer.
Canlyniadau disgwyliedig:
- Canllawiau a strategaethau gweithredol sy'n ymwybodol o'r grid ar gyfer gorsafoedd gwefru cerbydau trydan cyflym iawn, gan ystyried ymddygiad gwefru a yrrir gan ddefnyddwyr ac effeithiau ar y grid;
- Dull asesu technoleg-economaidd ar gyfer gwerthuso hyfywedd defnyddio dulliau gwefru cyflym iawn gan ystyried ansicrwydd ynni adnewyddadwy a chyfyngiadau’r grid;
- Fframweithiau modelu dilys ar gyfer dadansoddi hyfywedd technoleg-economaidd gorsafoedd gwefru cyflym iawn yn y system bŵer.
Mae'r swydd hon yn un tymor penodol am 36 mis, sy'n cynnwys dau secondiad wedi'u cynllunio: secondiad academaidd yn y brifysgol dramor sy'n cyd-oruchwylio (Technische Universitat Dortmund) a secondiad diwydiannol yng nghwmni'r mentor (Prifddinas-Ranbarth Caerdydd). Bydd yr ymgeisydd wedi'i gofrestru ar gyfer PhD ym Mhrifysgol Caerdydd yn ogystal â chael ei gyflogi gan Brifysgol Caerdydd.
Cyflog: £43,202 - £48,625 y flwyddyn
Lwfans Symudedd: £577 y mis neu £6,294.00 y flwyddyn.
Lwfans Teulu (os yn berthnasol): £536.36 y mis neu £6,436.33 y flwyddyn
Os oes gennych ymholiadau anffurfiol am y swydd, cysylltwch â Dr Muditha Abeysekera ( [email protected] ) neu'r Athro Carlos E. Ugalde-Loo ([email protected]).
I gael rhagor o fanylion am weithio yn Ysgol Peirianneg Prifysgol Caerdydd, cysylltwch â Karen Baldwin/Chiara Riolo/Bev Jones drwy e-bostio [email protected]
Prosiect gan Rwydwaith Doethurol Marie-Skłodowska-Curie Actions Horizon Europe y Gymuned Ewropeaidd yw hwn. Dyma’r rheolau ar gyfer recriwtio:
Rheol Symudedd MSCA: Ni ddylai ymgeiswyr fod wedi byw nac wedi cyflawni eu prif weithgaredd yng ngwlad y sefydliad sy'n recriwtio (h.y. ar gyfer y swydd hon, y DU) am fwy na 12 mis yn y 3 blynedd cyn y dyddiad recriwtio. Ni ystyrir gwasanaeth cenedlaethol gorfodol, arhosiadau byr fel gwyliau ac amser a dreulir gan yr ymchwilydd fel rhan o weithdrefn ar gyfer cael statws ffoadur o dan Gonfensiwn Genefa.
Rheol Ymgeiswyr Doethurol: Ni ddylai ymgeiswyr fod â gradd doethurol eisoes ar y dyddiad recriwtio. Ni fydd ymchwilwyr sydd wedi amddiffyn eu traethawd doethurol yn llwyddiannus ond nad ydynt wedi derbyn y radd doethurol yn ffurfiol eto yn cael eu hystyried yn gymwys.
NI ellir ystyried ymgeiswyr nad ydynt yn bodloni'r Rheol Symudedd a'r Meini Prawf Cymhwysedd ar gyfer y swydd ymchwil.
Yn ddelfrydol, bydd yr Ymgeisydd Doethurol yn dechrau’r broses ymrestru/cyflogaeth ar gyfer PhD ar 1 Ebrill 2027 / 1 Mehefin 2027 / 1 Hydref 2027.
Y broses ddethol
- Bydd ceisiadau'n cael eu hadolygu am gymhwysedd ac addasrwydd yn seiliedig ar y meini prawf a restrir ar gyfer pob swydd.
- Ar ôl llunio rhestr fer, gwahoddir ymgeiswyr i gyfweliadau ar-lein gyda'r pwyllgorau recriwtio perthnasol.
- Bydd y sefydliad recriwtio yn anfon hysbysiad o ganlyniad y dewis ar ôl y cyfweliad ar-lein.
Dyddiad hysbysebu’r swydd: Dydd Iau, 19 Tachwedd 2026
Dyddiad cau: Dydd Sul, 10 Ionawr 2027
Mae Prifysgol Caerdydd yn aelod o Grŵp Russell, sy’n cynnwys 24 o’r prifysgolion ymchwil-ddwys mwyaf blaenllaw ym Mhrydain. Mae gan Brifysgol Caerdydd tua 24,000 o israddedigion a 9,000 o fyfyrwyr ôl-raddedig, sy'n ei gwneud yr unfed brifysgol ar bymtheg fwyaf yn y DU o ran nifer y myfyrwyr. Cafodd 90% o waith ymchwil Prifysgol Caerdydd ei raddio'n swyddogol fel ymchwil sy’n arwain y byd neu'n rhagorol yn rhyngwladol yn yr asesiad annibynnol mawr diwethaf o ansawdd ymchwil ar draws prifysgolion y DU, gan wneud y Brifysgol yn un o'r 20 prifysgol orau yn y DU am ansawdd cyffredinol ei hymchwil.
Mae Ysgol Peirianneg Prifysgol Caerdydd yn meddu ar Ddyfarniad Arian Athena SWAN sy'n cydnabod arferion cyflogaeth da ac ymrwymiad i ddatblygu gyrfaoedd menywod ym maes gwyddoniaeth. Cyflogwr cyfle cyfartal yw Prifysgol Caerdydd sy’n annog ceisiadau gan unigolion cymwys heb ystyried rhyw, hil, anabledd, oedran, cyfeiriadedd rhywiol, ailbennu rhywedd, crefydd neu gred, statws priodasol neu feichiogrwydd a mamolaeth. Rydym yn annog menywod i wneud cais am y swydd. Byddwn hefyd yn ystyried cynigion i rannu’r swydd neu weithio’n hyblyg.
Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth a chreu gweithle cynhwysol. Rydym o’r farn bod modd gwneud hyn drwy ddenu, datblygu a chadw ystod amrywiol o bobl o lawer o gefndiroedd gwahanol. Felly, rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob rhan o’r gymuned, beth bynnag fo’u rhyw, eu hethnigrwydd, eu hanabledd, eu cyfeiriadedd rhywiol, eu hunaniaeth draws, statws eu perthynas, eu crefydd neu eu cred, eu cyfrifoldebau gofalu neu eu hoedran. Rydym yn croesawu ac yn annog ceisiadau yn arbennig gan y rhai o grwpiau nad ydynt wedi’u cynrychioli’n ddigonol o fewn gweithlu'r Brifysgol, fel y rhai sy'n uniaethu fel LGBT+, o gefndiroedd ethnig leiafrifol neu'r rhai ag anableddau. Er mwyn helpu ein cyflogeion i sicrhau cydbwysedd rhwng eu gwaith a’u bywydau personol, byddwn hefyd yn ystyried cynigion i weithio’n hyblyg neu rannu swydd.