Arweinydd yr Adran Feithrin (Meithrinfa’r Brifysgol)
MAE'N BWYSIG IAWN EICH BOD YN DARLLEN Y TESTUN SY’N YMWNEUD Â CHWBLHAU DATGANIAD I GEFNOGI’R CAIS – MAE’R MANYLION YN ADRAN MANYLEB YR UNIGOLYN.
Mae meithrinfa’r brifysgol yn cynnig cyfleusterau i blant rhwng 10 wythnos a phum mlwydd oed, ac mae’r ganolfan wedi’i rhannu’n adrannau sy’n briodol i oedran a datblygiad y plant. Rydym wedi ymrwymo i gynnig gwasanaeth proffesiynol sy'n canolbwyntio ar y cwsmer i amrywiaeth eang o bobl.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn frwdfrydig, yn llawn cymhelliant, yn ddibynadwy ac yn gallu darparu gwasanaeth hynod effeithlon ac effeithiol i gwsmeriaid. Gan adrodd i’r rheolwr, bydd gan y rôl hon rywfaint o ymreolaeth, a bydd yn arfer lefel uchel o grebwyll ynghylch gweithredu’r Gwasanaeth Meithrin ym Mhrifysgol Caerdydd.
Mae arweinydd yr adran yn gyfrifol am ofal grŵp o blant, o fewn grŵp oedran penodol, a goruchwylio nyrsys a chynorthwywyr y feithrinfa.
Swydd am gyfnod penodol o 6 mis yw hon (cyfnod mamolaeth), 37.5 awr yr wythnos, 5 allan o 7 diwrnod. Y rheolwr llinell fydd yn penderfynu ar yr oriau fel bod digon o staff yn y feithrinfa rhwng 8am a 6pm. Mae’r contract 37.5 awr hefyd yn denu cyflog uwch ar gyfer oriau 35 - 37.5.
Cyflog Cychwynnol: £25,249 y flwyddyn, gyda dau bwynt cynnydd blynyddol hyd at £26,093 y flwyddyn (Gradd 3).
Mae’r rôl hon wedi’i lleoli ar y campws.
Buddion
Rydym yn cynnig pecyn buddion staff blaenllaw a gwerth chweil:
32 diwrnod gwyliau’r flwyddyn ynghyd ag 8 gwyliau banc, gan gynnwys y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd yn rhydd (pro rata ar gyfer staff rhan-amser)
Dillad gwaith a hyfforddiant
Rydym yn cynnig dau gynllun pensiwn cyfrannol, a byddwch yn cael eich cofrestru’n awtomatig yn y cynllun perthnasol i’ch math o swydd
Mae ein cynllun Beicio i’r Gwaith yn galluogi gweithwyr i brydlesu beiciau ac offer diogelwch cysylltiedig hyd at werth o £3,000 drwy gynllun aberthu cyflog
Mae’r cynllun Benthyciadau Tocyn Tymor Blynyddol yn caniatáu i chi wneud cais am fenthyciad di-log gan y brifysgol, a fydd wedyn yn prynu tocyn teithio blynyddol ar eich rhan. Bydd y swm hwn yn daladwy dros 10 mis
Cyfraddau gostyngol ar aelodaeth chwaraeon
Mynediad i fwy na 90 o ostyngiadau a chynigion i staff
Gofal plant am bris gostyngol
Am ragor o wybodaeth ewch i: What we can offer - Jobs - Cardiff University
Mae’r Manyleb Person wedi’i rhannu’n ddwy adran: hanfodol a dymunol. Dangoswch yn glir sut rydych yn bodloni’r holl feini prawf hanfodol. Lle bo modd, dylech roi enghreifftiau o sut, pryd a ble rydych wedi defnyddio eich profiad, eich gwybodaeth, eich sgiliau penodol a’ch galluoedd i gyd-fynd â’r rhai sydd eu hangen ar gyfer y rôl swydd hon.
Sicrhewch eich bod yn cyfleu hyn yn llawn trwy greu dogfen newydd sy’n cynnwys eich datganiad cefnogol, gan restru POB UN O’R MEINI PRAWF ac esbonio’n erbyn pob un sut rydych yn eu bodloni.
Bydd angen cwblhau hyn cyn i chi ddechrau gwneud eich cais ar-lein gan y bydd angen i chi ei lwytho i fyny. Wrth uwchlwytho’r datganiad cefnogol, dylai teitl y ddogfen ddarllen “datganiad cefnogol” ac hefyd nodi teitl y swydd (yn berthnasol i’r swydd rydych yn ymgeisio amdani).
Dyddiad hysbysebu: Dydd Mercher, 14 Hydref 2026
Dyddiad cau: Dydd Sul, 1 Tachwedd 2026
Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth a chreu gweithle cynhwysol. Rydym o’r farn bod modd gwneud hyn drwy ddenu, datblygu a chadw ystod amrywiol o bobl o lawer o gefndiroedd gwahanol. Felly, rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob rhan o’r gymuned, beth bynnag fo’u rhyw, eu hethnigrwydd, eu hanabledd, eu cyfeiriadedd rhywiol, eu hunaniaeth draws, statws eu perthynas, eu crefydd neu eu cred, eu cyfrifoldebau gofalu neu eu hoedran. Rydym yn croesawu ac yn annog ceisiadau yn arbennig gan y rhai o grwpiau nad ydynt wedi’u cynrychioli’n ddigonol o fewn gweithlu'r Brifysgol, fel y rhai sy'n uniaethu fel LGBT+, o gefndiroedd ethnig leiafrifol neu'r rhai ag anableddau. Er mwyn helpu ein cyflogeion i sicrhau cydbwysedd rhwng eu gwaith a’u bywydau personol, byddwn hefyd yn ystyried cynigion i weithio’n hyblyg neu rannu swydd.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn Gymraeg, ac ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.