Technegydd Mecanyddol Arbenigol
Ysgol Peirianneg Caerdydd
Mae gan yr Ysgol Peirianneg swydd wag ar gyfer Technegydd Mecanyddol Arbenigol yn yr Adran Fecanyddol. Bydd deiliad y swydd yn rhoi cefnogaeth dechnegol broffesiynol i'r adran ac yn cynnal gwaith peiriannu manwl gywir ar ystod o offer gan gynnwys peiriannau rheoli rhifyddol â llaw a chyfrifiadurol. Yn rhan o'r tîm technegol mecanyddol a gweithgynhyrchu, byddwch yn gyfrifol hefyd am greu offer a gweithgynhyrchu rhannau ac offer i gynorthwyo addysgu a gweithgareddau myfyrwyr eraill yn y gweithdai peirianneg fecanyddol a gweithgynhyrchu yn ogystal â rhoi cymorth technegol cynhwysfawr i'r ysgol.
Swydd amser llawn a phenagored (35 awr yr wythnos) yw hon ac mae modd dechrau ar unwaith.
Cyflog: £33,951 – £36,636 y flwyddyn (Gradd 5). Ym Mhrifysgol Caerdydd, penodir fel arfer ar waelod y raddfa ac eithrio o dan amgylchiadau eithriadol.
Os oes gennych chi ymholiadau anffurfiol ynglŷn â’r swydd, cysylltwch ag Andrew Rankmore, Goruchwyliwr Technegol - [email protected]
Os oes gennych chi ymholiadau anffurfiol ynglŷn â gweithio i’r Brifysgol, cysylltwch â Catherine Parker - [email protected]
Dyddiad hysbysebu: Dydd Gwener, 16 Hydref 2026
Dyddiad cau: Dydd Sul, 1 Tachwedd 2026
Cynhelir cyfweliadau ar-lein yn fuan ar ôl y dyddiad cau.
Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth a chreu gweithle cynhwysol. Rydym o’r farn bod modd gwneud hyn drwy ddenu, datblygu a chadw ystod amrywiol o bobl o lawer o gefndiroedd gwahanol. Felly, rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob rhan o’r gymuned, beth bynnag fo’u rhyw, eu hethnigrwydd, eu hanabledd, eu cyfeiriadedd rhywiol, eu hunaniaeth draws, statws eu perthynas, eu crefydd neu eu cred, eu cyfrifoldebau gofalu neu eu hoedran. Rydym yn croesawu ac yn annog ceisiadau yn arbennig gan y rhai o grwpiau nad ydynt wedi’u cynrychioli’n ddigonol o fewn gweithlu'r Brifysgol, fel y rhai sy'n uniaethu fel LGBT+, o gefndiroedd ethnig leiafrifol neu'r rhai ag anableddau. Er mwyn helpu ein cyflogeion i sicrhau cydbwysedd rhwng eu gwaith a’u bywydau personol, byddwn hefyd yn ystyried cynigion i weithio’n hyblyg neu rannu swydd.