Cydymaith Ymchwil mewn Catalysis Heterogenaidd
Adran Cemeg
Gwyddorau Ffisegol, Cemegol ac Amgylcheddol Caerdydd
Prifysgol Caerdydd
Rydym yn chwilio am wyddonydd brwdfrydig, llawn cymhelliant, sydd â galluoedd deallusol a thechnegol profedig, i weithio ar y prosiect hwn. Prif amcan y prosiect yw dylunio, syntheseiddio, profi a nodweddu catalyddion heterogenaidd newydd yn gynhwysfawr ar gyfer synthesis amonia drwy brosesau plasmon-ffotogatalysis, gan ddefnyddio systemau adweithyddion swp a llif.
Rhaid i ymgeiswyr feddu ar radd ôl-raddedig ar lefel PhD (neu fod yn agos at ei chwblhau / cyflwyno) mewn Cemeg Heterogenaidd, neu brofiad diwydiannol perthnasol.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar dudalennau gwe'r grŵp canlynol:
Yr Athro Graham Hutchings https://www.cardiff.ac.uk/people/view/38519-hutchings-graham
Ar gyfer ymholiadau anffurfiol am y rôl ac Adran Cemeg Caerdydd, cysylltwch â'r Athro Graham Hutchings drwy e-bost: [email protected]
Am fanylion pellach ynghylch gweithio ym Mhrifysgol Caerdydd, cysylltwch â: Ms Caroline Pasmore ([email protected])
Mae'r swydd hon yn un amser llawn (35 awr yr wythnos) ac mae ar gael o 1 Ionawr 2027 am gyfnod o 30 mis.
Cyflog: £41,885 - £46,970 y flwyddyn (Gradd 6). Ni ddisgwylir i benodiad gael ei wneud ar lefel uwch na £41,885 y flwyddyn (Gradd 6.32).
Nodyn pwysig: Polisi'r Brifysgol yw defnyddio'r fanyleb person fel offeryn allweddol ar gyfer llunio rhestr fer. Dylai ymgeiswyr ddangos eu bod yn bodloni'r HOLL feini prawf hanfodol, yn ogystal â'r rhai dymunol lle bo hynny'n berthnasol. Fel rhan o'r broses ymgeisio, gofynnir i chi ddarparu'r dystiolaeth hon drwy ddatganiad ategol. Sicrhewch fod y dystiolaeth rydych yn ei darparu yn cyfateb i'r meini prawf rhifol a amlinellir isod. Bydd eich cais yn cael ei ystyried yn seiliedig ar y wybodaeth a ddarperir gennych o dan bob elfen. Wrth atodi'r datganiad ategol i'ch proffil ymgeisio, sicrhewch eich bod yn ei enwi gan ddefnyddio rhif cyfeirnod y swydd wag, e.e. Datganiad Ategol ar gyfer 1101.
Dyddiad hysbysebu: Dydd Gwener, 20 Tachwedd 2026
Dyddiad cau: Dydd Sul, 6 Rhagfyr 2026
Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth a chreu gweithle cynhwysol. Rydym o’r farn bod modd gwneud hyn drwy ddenu, datblygu a chadw ystod amrywiol o bobl o lawer o gefndiroedd gwahanol. Felly, rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob rhan o’r gymuned, beth bynnag fo’u rhyw, eu hethnigrwydd, eu hanabledd, eu cyfeiriadedd rhywiol, eu hunaniaeth draws, statws eu perthynas, eu crefydd neu eu cred, eu cyfrifoldebau gofalu neu eu hoedran. Rydym yn croesawu ac yn annog ceisiadau yn arbennig gan y rhai o grwpiau nad ydynt wedi’u cynrychioli’n ddigonol o fewn gweithlu'r Brifysgol, fel y rhai sy'n uniaethu fel LGBT+, o gefndiroedd ethnig leiafrifol neu'r rhai ag anableddau. Er mwyn helpu ein cyflogeion i sicrhau cydbwysedd rhwng eu gwaith a’u bywydau personol, byddwn hefyd yn ystyried cynigion i weithio’n hyblyg neu rannu swydd.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn Gymraeg, ac ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Mae Prifysgol Caerdydd wedi llofnodi Datganiad ar Asesu Ymchwil (DORA) San Francisco, sy'n golygu y byddwn, wrth wneud penderfyniadau cyflogi a dyrchafu, yn gwerthuso ymgeiswyr ar sail safon eu hymchwil, nid ar sail metrigau cyhoeddi na'r cyfnodolyn y mae'r ymchwil wedi’i chyhoeddi ynddo. Ceir rhagor o wybodaeth yma: Asesu ymchwil yn gyfrifol - Ymchwil - Prifysgol Caerdydd