• Advertising End DateAdvertising End Date:
    31 Gor 2026
  • Grŵp SwyddiGrŵp Swyddi
    Gwasanaethau Proffesiynol (Rheoli, Gweinyddol, Arbenigwyr, Cymorth Technegol a Gweithrediadau)
  • Math o Swydd
    Staff Rheoli, Proffesiynol ac Arbenigol
  • ID Swydd WagID Swydd Wag:
    212
  • Statws ContractStatws Contract
    Llawn Amser
  • Math o GontractMath o Gontract:
    Tymor Sefydlog
  • Hysbyseb Swydd

  • Mae'r swydd hon ar agor i weithwyr Prifysgol Caerdydd yn unig ar hyn o bryd.  Peidiwch ymgeisio os nad oes ganddoch gytundeb cyflogaeth ddilys gyda’r brifysgol.

    Ymgeiswyr Mewnol yn Unig – Cydlynydd Safleoedd 
    Yr Isadran Meddygaeth Seicolegol a Niwrowyddorau Clinigol
    Yr Ysgol Meddygaeth
    Coleg y Gwyddorau Biofeddygol a Bywyd


    Mae swydd gyffrous ar gael i Gydlynydd Safle ymuno ag Is-adran Meddygaeth Seicolegol a Niwrowyddorau Clinigol Prifysgol Caerdydd, wedi'i lleoli yn Adeilad blaenllaw Hadyn Ellis ym Mhrifysgol Caerdydd.  

    Rydym yn awyddus i recriwtio Cydlynydd Safleoedd brwdfrydig a threfnus i gefnogi’r gwaith o gyflawni rhaglen Nodau Iechyd Meddwl (MHG) Seicosis Omeg yn y Ganolfan Geneteg a Genomeg Niwroseiciatrig ym Mhrifysgol Caerdydd. Gan weithio'n agos gyda Rheolwr y Rhaglen a thimau clinigol, byddwch yn cydlynu gweithgarwch ymchwil ar draws y safleoedd GIG ac academaidd sy'n cymryd rhan, gan wneud yn siŵr bod gweithdrefnau astudio effeithlon, cydymffurfiol ac o ansawdd uchel yn cael eu dilyn. 

    Yn y rôl hon, byddwch yn goruchwylio sut y rhoddir protocolau biosamplu ar waith yn lleol ac yn cefnogi hyfforddiant staff. Ar ben hynny, byddwch yn cynnal systemau cadarn ar gyfer recriwtio cyfranogwyr, biosamplu, a chasglu data. Byddwch yn meithrin perthnasoedd effeithiol â rhanddeiliaid allweddol ar draws Prifysgol Caerdydd, sefydliadau'r GIG, a chydweithredwyr allanol, gan roi arweiniad clir ar brosesau’r safle a datrys problemau gweithredol wrth iddyn nhw godi. Byddai'r swydd yn addas i rywun sydd â phrofiad sylweddol o ymchwil neu gydlynu prosiectau (yn ddelfrydol ym meysydd ymchwil iechyd meddwl neu iechyd), sgiliau cyfathrebu rhagorol, a dull rhagweithiol sy’n datrys problemau. 

    Mae rhaglen Nodau Iechyd Meddwl (MHG) Omeg yn fenter bwysig ledled y DU, a ariennir gan Lywodraeth y DU. Ei nod yw chwyldroi ein dealltwriaeth a'n ffordd o drin salwch meddwl difrifol. Gan ehangu ar ddatblygiadau sylweddol ym maes genomeg, proteomeg, metabolomeg ac iechyd digidol, bydd y prosiect yn sefydlu carfan aml-omig fwyaf y byd o bobl ag anhwylderau seicosis a hwyliau, gan ei chysylltu â data iechyd clinigol a byd go iawn helaeth. Bydd y seilwaith cenedlaethol newydd hwn, a ddatblygwyd mewn cydweithrediad agos ag unigolion sydd â phrofiad byw, y GIG, y byd academaidd a diwydiant, yn cyflymu'r gwaith o ddarganfod mecanweithiau biolegol, canfod biofarcwyr i greu triniaethau wedi'u personoli a gwneud y DU yn lle deniadol yn fyd-eang i arloesi ym maes iechyd meddwl. Dan arweiniad tîm cydweithredol, cyfeillgar a hynod o arbenigol sy'n cwmpasu Prifysgol Caerdydd, Prifysgol Caergrawnt, Ymddiriedolaeth Sefydliad y GIG Caergrawnt a Peterborough, Prifysgol Caeredin, a Choleg y Brenin Llundain, mae MHG Omeg yn gyfle cyffrous i gyfrannu at raglen wirioneddol arloesol sydd â'r potensial i newid bywydau a llunio dyfodol gofal iechyd meddwl. 

    Swydd yn Adeilad Hadyn Ellis ar gampws Parc Cathays yw hon. 

    Mae’r swydd yn gymwys i’w chynnig ar sail gweithio cyfunol. Mae hynny’n golygu, yn ogystal â gweithio ar y campws, y cewch weithio o leoliad arall (e.e. eich cartref) rywfaint o’r amser. Mae’r Brifysgol wedi ymrwymo i gynnig yr hyblygrwydd hwn pan fo’r swydd ac anghenion y busnes yn caniatáu, a hynny er mwyn ichi allu sicrhau cydbwysedd rhwng eich gwaith a’ch bywyd personol.

    Mae Prifysgol Caerdydd yn cynnig pecyn buddion gwych, gan gynnwys 45 diwrnod o wyliau blynyddol (gan gynnwys gwyliau banc), cynllun pensiwn lleol, cynllun beicio i'r gwaith a chynlluniau teithio eraill, cynyddrannau blynyddol ar hyd y raddfa gyflog, a mwy. Dyma le cyffrous a bywiog i weithio, lle mae nifer o heriau gwahanol. Rydym hefyd yn falch o gefnogi’r Cyflog Byw.

    Sut y byddwn yn eich helpu i gyflawni’r rôl hon – 

    Mae’n rhaid i chi fodloni rhai gofynion cyn gallu dechrau’r swydd (gweler ‘Meini Prawf Hanfodol’), ond bydd modd datblygu’r elfennau eraill drwy gael hyfforddiant neu brofiad cyffredinol yn y swydd.  Ar ôl i chi ddechrau yn y swydd, rydym ni am eich cefnogi chi a’ch datblygu gan ddefnyddio cyfuniad o’r canlynol i wireddu eich llawn botensial:

    1.    Cyfarfodydd un i un rheolaidd gyda'ch rheolwr
    2.    Tîm profiadol a chefnogol o'ch cwmpas
    3.    Eich cefnogi drwy estyn cyfleoedd ichi hyfforddi a datblygu yn ôl yr angen mewn ffyrdd sy’n berthnasol i’r swydd
    4.    Cynllun mentora

    Cysylltwch â Ceri Allen, Dirprwy Reolwr yr Is-adran ([email protected]) os oes gennych chi ymholiadau anffurfiol drwy ffonio 029 2068 8352

    Swydd amser llawn, (35 awr yr wythnos), yw hon sydd ar gael am gyfnod penodol o 1 Hydref 2026 tan 31 Awst 2029.

    Cyflog: £33,951 hyd at £36,636 y flwyddyn (Gradd 5).  Ym Mhrifysgol Caerdydd, mae unigolion fel arfer yn dechrau ar waelod y raddfa gyflog, ac eithrio mewn amgylchiadau eithriadol.

    Dyddiad cau: Dydd Gwener, 31 Gorffennaf 2026
     

    Nid yw ceisiadau allanol yn cael eu hystyried ar gyfer y swydd hon ar hyn o bryd.  Os penderfynir agor y swydd i ymgeiswyr allanol, bydd yr isbennawd ar y brig yn cael ei thynnu a rhoddir digon o amser i chi wneud cais - cadwch olwg ar y dudalen am fanylion.

    Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth a chreu gweithle cynhwysol. Rydym o’r farn bod modd gwneud hyn drwy ddenu, datblygu a chadw ystod amrywiol o bobl o lawer o gefndiroedd gwahanol. Felly, rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob rhan o’r gymuned, beth bynnag fo’u rhyw, eu hethnigrwydd, eu hanabledd, eu cyfeiriadedd rhywiol, eu hunaniaeth draws, statws eu perthynas, eu crefydd neu eu cred, eu cyfrifoldebau gofalu neu eu hoedran. Rydym yn croesawu ac yn annog ceisiadau yn arbennig gan y rhai o grwpiau nad ydynt wedi’u cynrychioli’n ddigonol o fewn gweithlu'r Brifysgol, fel y rhai sy'n uniaethu fel LGBT+, o gefndiroedd ethnig leiafrifol neu'r rhai ag anableddau. Er mwyn helpu ein cyflogeion i sicrhau cydbwysedd rhwng eu gwaith a’u bywydau personol, byddwn hefyd yn ystyried cynigion i weithio’n hyblyg neu rannu swydd.

    Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn Gymraeg, ac ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Swyddi Eraill fel hyn

  • Advertising End DateAdvertising End Date:
    31 Gor 2026
  • Grŵp SwyddiGrŵp Swyddi
    Gwasanaethau Proffesiynol (Rheoli, Gweinyddol, Arbenigwyr, Cymorth Technegol a Gweithrediadau)
  • Math o Swydd
    Staff Rheoli, Proffesiynol ac Arbenigol
  • ID Swydd WagID Swydd Wag:
    212
  • Statws ContractStatws Contract
    Llawn Amser
  • Math o GontractMath o Gontract:
    Tymor Sefydlog
Mwy o Wybodaeth
  • Advertising End DateAdvertising End Date:
    31 Gor 2026
  • Grŵp SwyddiGrŵp Swyddi
    Gwasanaethau Proffesiynol (Rheoli, Gweinyddol, Arbenigwyr, Cymorth Technegol a Gweithrediadau)
  • Math o Swydd
    Staff Rheoli, Proffesiynol ac Arbenigol
  • ID Swydd WagID Swydd Wag:
    217
  • Cyflog a hysbysebirManylion y Cyflog:
    £33,951 - £36,636 per annum (Grade 5)
  • Statws ContractStatws Contract
    Llawn Amser
  • Math o GontractMath o Gontract:
    Tymor Sefydlog
Mwy o Wybodaeth
  • Dyddiad Postio'r SwyddDyddiad Postio'r Swydd:
    24 Gor 2026
  • Advertising End DateAdvertising End Date:
    21 Awst 2026
  • Grŵp SwyddiGrŵp Swyddi
    Academaidd (gan gynnwys Addysgu, Ymchwil a Graddedigion)
  • Math o Swydd
    Addysgu ac Ymchwil
  • ID Swydd WagID Swydd Wag:
    525
  • Cyflog a hysbysebirManylion y Cyflog:
    £41,064 - £46,049 per annum (Grade 6)
  • Statws ContractStatws Contract
    Llawn Amser
  • Math o GontractMath o Gontract:
    Penagored
Mwy o Wybodaeth
  • Dyddiad Postio'r SwyddDyddiad Postio'r Swydd:
    24 Gor 2026
  • Advertising End DateAdvertising End Date:
    07 Awst 2026
  • Grŵp SwyddiGrŵp Swyddi
    Academaidd (gan gynnwys Addysgu, Ymchwil a Graddedigion)
  • Math o Swydd
    Addysgu ac Ymchwil
  • ID Swydd WagID Swydd Wag:
    532
  • Cyflog a hysbysebirManylion y Cyflog:
    £51,573 - £56,535 per annum (Grade 7)
  • Statws ContractStatws Contract
    Llawn Amser
  • Math o GontractMath o Gontract:
    Penagored
Mwy o Wybodaeth
  • Dyddiad Postio'r SwyddDyddiad Postio'r Swydd:
    24 Gor 2026
  • Advertising End DateAdvertising End Date:
    07 Awst 2026
  • Grŵp SwyddiGrŵp Swyddi
    Academaidd (gan gynnwys Addysgu, Ymchwil a Graddedigion)
  • Math o Swydd
    Addysgu ac Ysgolheictod
  • ID Swydd WagID Swydd Wag:
    533
  • Cyflog a hysbysebirManylion y Cyflog:
    £51,573 - £56,535 per annum (Grade 7)
  • Statws ContractStatws Contract
    Llawn Amser
  • Math o GontractMath o Gontract:
    Penagored
Mwy o Wybodaeth
Diweddaraf

Senior HR Advisor

  • Dyddiad Postio'r SwyddDyddiad Postio'r Swydd:
    24 Gor 2026
  • Advertising End DateAdvertising End Date:
    07 Awst 2026
  • Grŵp SwyddiGrŵp Swyddi
    Gwasanaethau Proffesiynol (Rheoli, Gweinyddol, Arbenigwyr, Cymorth Technegol a Gweithrediadau)
  • Math o Swydd
    Staff Rheoli, Proffesiynol ac Arbenigol
  • ID Swydd WagID Swydd Wag:
    510
  • Cyflog a hysbysebirManylion y Cyflog:
    41,064
  • Statws ContractStatws Contract
    Llawn Amser
  • Math o GontractMath o Gontract:
    Tymor Sefydlog
Mwy o Wybodaeth
  • Dyddiad Postio'r SwyddDyddiad Postio'r Swydd:
    23 Gor 2026
  • Advertising End DateAdvertising End Date:
    06 Awst 2026
  • Grŵp SwyddiGrŵp Swyddi
    Academaidd (gan gynnwys Addysgu, Ymchwil a Graddedigion)
  • Math o Swydd
    Addysgu ac Ysgolheictod
  • ID Swydd WagID Swydd Wag:
    229
  • Cyflog a hysbysebirManylion y Cyflog:
    £41,064 - £46,049 per annum (Grade 6)
  • Statws ContractStatws Contract
    Llawn Amser
  • Math o GontractMath o Gontract:
    Tymor Sefydlog
Mwy o Wybodaeth
  • Dyddiad Postio'r SwyddDyddiad Postio'r Swydd:
    23 Gor 2026
  • Advertising End DateAdvertising End Date:
    06 Awst 2026
  • Grŵp SwyddiGrŵp Swyddi
    Academaidd (gan gynnwys Addysgu, Ymchwil a Graddedigion)
  • Math o Swydd
    Addysgu ac Ysgolheictod
  • ID Swydd WagID Swydd Wag:
    387
  • Cyflog a hysbysebirManylion y Cyflog:
    £41,064 - £46,049 per annum, pro rata for part time hours (Grade 6)
  • Statws ContractStatws Contract
    Rhan-amser
  • Math o GontractMath o Gontract:
    Tymor Sefydlog
Mwy o Wybodaeth
Diweddaraf

Research Associate

  • Dyddiad Postio'r SwyddDyddiad Postio'r Swydd:
    16 Gor 2026
  • Advertising End DateAdvertising End Date:
    02 Awst 2026
  • Grŵp SwyddiGrŵp Swyddi
    Academaidd (gan gynnwys Addysgu, Ymchwil a Graddedigion)
  • Math o Swydd
    Ymchwil
  • ID Swydd WagID Swydd Wag:
    389
  • Cyflog a hysbysebirManylion y Cyflog:
    £41,064 - £46,049 per annum (Grade 6)
  • Statws ContractStatws Contract
    Llawn Amser
  • Math o GontractMath o Gontract:
    Tymor Sefydlog
Mwy o Wybodaeth
  • Dyddiad Postio'r SwyddDyddiad Postio'r Swydd:
    16 Gor 2026
  • Advertising End DateAdvertising End Date:
    27 Gor 2026
  • Grŵp SwyddiGrŵp Swyddi
    Gwasanaethau Proffesiynol (Rheoli, Gweinyddol, Arbenigwyr, Cymorth Technegol a Gweithrediadau)
  • Math o Swydd
    Staff Rheoli, Proffesiynol ac Arbenigol
  • ID Swydd WagID Swydd Wag:
    358
  • Cyflog a hysbysebirManylion y Cyflog:
    £33,951 - £36,636 y flwyddyn (Gradd 5)
  • Statws ContractStatws Contract
    Llawn Amser
  • Math o GontractMath o Gontract:
    Tymor Sefydlog
Mwy o Wybodaeth