Darlithydd Gwleidyddiaeth – Addysgu ac Ymchwil
Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth
Mae Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth eisiau penodi ymgeisydd rhagorol i ymuno â'r Adran Gwleidyddiaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol, sydd ag enw da yn rhyngwladol, i fod yn Ddarlithydd Gwleidyddiaeth (Gradd 7). Rydym yn chwilio am rywun sydd ag arbenigedd yn llywodraethu’r DU ac addysgeg Gwleidyddiaeth (o bosibl yn cynnwys meysydd megis dysgu ar sail problemau, addysgeg partneriaeth, addysgeg dysgu sy'n ymgysylltu â'r gymuned, efelychiadau, ac asesu dilys). Bydd gan yr ymgeisydd hefyd y gallu i gefnogi addysgu ym meysydd gwleidyddiaeth y DU, gwleidyddiaeth gymharol, a dulliau ymchwil.
Rydym yn rhagweld y bydd yr ymgeisydd yn chwarae rhan ganolog wrth ddatblygu, cyflwyno a gwerthuso modiwlau sy'n cynnwys addysgeg dysgu sy'n ymgysylltu â'r gymuned, efelychiadau a dulliau tebyg eraill. Mae gennym ddiddordeb arbennig mewn ymgeiswyr y mae eu harbenigedd yn estyn ac yn ategu’r gallu presennol yn yr adran.
Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus broffil ymchwil ffyniannus sy'n gymesur â sefyllfa ei yrfa. Disgwylir iddynt gyfrannu at weithgareddau sy'n cyfrannu at gymuned ymchwil yr Ysgol.
Mae'r Adran Gwleidyddiaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol yn rhan ddeinamig a chynyddol o Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth ryngddisgyblaethol. Rydym yn gymuned amryfath ac amrywiol yn ddeallusol, gyda chryfderau sefydlog a gydnabyddir yn rhyngwladol sydd wedi'u sefydlu mewn theori gwleidyddiaeth, gwleidyddiaeth Cymru a datganoli; hanes gwleidyddiaeth Prydain; a gwleidyddiaeth Ewrop a’r DU a pholisi cyhoeddus. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae'r adran wedi buddsoddi'n helaeth i ategu ei chryfder mewn cysylltiadau rhyngwladol a gwleidyddiaeth fyd-eang. Bellach, mae ganddi broffil ymchwil rhagorol mewn meysydd sy’n cynnwys hanes y rhyfel oer; gwleidyddiaeth niwclear; theori ryngwladol gritigol; trefedigaethedd ac ôl-drefedigaethedd; astudiaethau rhywedd; gwleidyddiaeth amgylcheddol; astudiaethau milwrol ac astudiaethau deallusrwydd; a chyfraith ryngwladol. Mae ymchwil ac addysgu ar draws yr adran yn cofleidio amrywiaeth o ddulliau deallusol a methodolegol. Ar ben hynny, mae bod yn rhan o Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth yn cynnig cyfleoedd i arloesi ar draws ffiniau disgyblaethol ym meysydd addysgu ac ymchwil.
Mae is-ddisgyblaethau ar draws Gwleidyddiaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol yn cymryd rhan weithredol mewn pum cysylltiad ymchwil rhyngddisgyblaethol ar draws Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth, sef Llywodraethu Byd-eang: Cymru, Ewrop a Thu Hwnt; Gwrthdaro, Diogelwch a Chymdeithas; y Gyfraith a Gwleidyddiaeth Technoleg; Cyfiawnder Cymdeithasol a Dyfodol Amgen; a Chenedlaethau'r Dyfodol a Chynaliadwyedd. Mae'r meysydd hyn yn datblygu amgylchedd ymchwil deinamig trwy amrywiaeth o weithgareddau, gan gynnwys datblygu grwpiau darllen a chyhoeddiadau ar y cyd, mentora, sesiynau cymorth gyda gwaith ar y gweill, datblygu ceisiadau am arian ar y cyd, a gweithdai. Mae gweithgareddau ysgoloriaeth yr Ysgol yn cael eu cefnogi gan y Ganolfan Addysgeg Addysg Wleidyddol a Chyfreithiol, a sefydlwyd yn ddiweddar. Cefnogir gweithgareddau ysgoloriaeth yn yr Ysgol gan y Ganolfan Addysgeg Addysg Wleidyddol a Chyfreithiol (PeoPLE), a ffurfiwyd i hyrwyddo a chefnogi ysgolheictod dysgu ac addysgu ac ymchwil addysgeg ym meysydd y gyfraith, gwleidyddiaeth a chysylltiadau rhyngwladol. Mae'r Ganolfan wedi ymroi i ddull myfyriol sy’n wybodus am addysgeg, gan bwysleisio pwysigrwydd hyn i'n gwaith addysgu a dysgu ac i'n gwaith fel cymuned academaidd.
Yn rhan o'r broses o ail-ddilysu ein rhaglen radd israddedig, byddwn yn datblygu prosiectau copa arloesol gwerth 40 credyd yn rhan o’n rhaglen astudio'r flwyddyn olaf, o flwyddyn academaidd 2027–28. Ym maes gwleidyddiaeth bydd hyn yn cynnwys datblygu a chyflwyno modiwlau sy'n canolbwyntio ar ddysgu ar sail problemau, addysgeg partneriaeth, addysgeg dysgu sy'n ymgysylltu â'r gymuned, efelychiadau ac asesu dilys. Disgwylir i'r ymgeisydd llwyddiannus chwarae rhan allweddol yn natblygiad y modiwlau hyn a’u rhoi ar waith.
Disgwylir i ymgeiswyr ymhelaethu ar arbenigedd yn y meysydd eang hyn a llunio proffil yr Adran ymhellach.
I gael rhagor o wybodaeth am yr Adran a'i gwaith, cysylltwch â Dr Jon Kirkup, Pennaeth yr Adran Gwleidyddiaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol, trwy e-bostio [email protected]
Gwefan: https://www.cardiff.ac.uk/cy/law-politics
Mae'r swydd hon yn amser llawn a phen agored, i ddechrau yn semester cyntaf neu ail flwyddyn academaidd 2026–2027.
Mae cyfweliadau wedi'u cynllunio ar gyfer 13 Awst. Gofynnwn yn garedig i ymgeiswyr gadw'r dyddiad hwn ar gael, gan y byddai'n bosibl na fydd dyddiadau cyfweliad amgen ar gael.
Cyflog: £51,753 – £56,535 y flwyddyn (Gradd 7)
Ym Mhrifysgol Caerdydd, bydd unigolion fel arfer yn dechrau ar waelod y raddfa gyflog, ac eithrio o dan amgylchiadau eithriadol.
Dyddiad hysbysebu: Dydd Gwener, 24 Gorffennaf 2026
Dyddiad cau: Dydd Gwener, 7 Awst 2026
Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ogystal â chreu gweithle cynhwysol. Rydym o’r farn bod modd gwneud hyn drwy ddenu, datblygu a chadw ystod amrywiol o bobl o lawer o gefndiroedd gwahanol. Felly, rydym yn croesawu ymgeiswyr o bob rhan o’r gymuned, beth bynnag fo’u rhyw, eu hethnigrwydd, eu hanabledd, eu cyfeiriadedd rhywiol, eu hunaniaeth draws, statws eu perthynas, eu crefydd neu eu cred, eu cyfrifoldebau gofalu neu eu hoedran. Rydym yn croesawu ac yn annog ceisiadau yn arbennig gan y rhai o grwpiau nad ydynt wedi’u cynrychioli’n ddigonol o fewn gweithlu'r Brifysgol, fel y rhai sy'n uniaethu fel LHDT+, o gefndiroedd du, Asiaidd ac ethnig leiafrifol neu'r rhai ag anableddau. Er mwyn helpu ein cyflogai i sicrhau cydbwysedd rhwng eu gwaith a’u bywydau personol, byddwn hefyd yn ystyried cynigion i weithio’n hyblyg neu rannu’r swydd.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn Gymraeg, ac ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Mae Prifysgol Caerdydd wedi llofnodi Datganiad ar Asesu Ymchwil (DORA) San Francisco, sy'n golygu y byddwn, wrth wneud penderfyniadau cyflogi a dyrchafu, yn gwerthuso ymgeiswyr ar sail safon eu hymchwil, nid ar sail metrigau cyhoeddi na'r cyfnodolyn y mae'r ymchwil wedi’i chyhoeddi ynddo. Ceir rhagor o wybodaeth yma: Asesu ymchwil yn gyfrifol - Ymchwil - Prifysgol Caerdydd