Cydymaith Ymchwil
Yr Ysgol Seicoleg
Rydym yn bwriadu penodi ymchwilydd ôl-ddoethurol profiadol, uchelgeisiol a hynod frwdfrydig sydd â phrofiad o reoli ymchwil, gan gynnwys treialon clinigol mewn lleoliadau’r GIG. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn ymuno â thîm amlddisgyblaethol bywiog sy'n gweithio ar y rhaglen ‘REDUCE’ a ariennir gan ‘NIHR.’ Mae’r rhaglen yn gwerthuso pa mor effeithiol yw ymyrraeth seicolegol, gyda’r nod o wella canlyniadau clinigol i bobl â diabetes sydd mewn perygl o ddatblygu wlserau traed. Mae dau brif faes cyfrifoldeb i’r swydd hon. Y cyntaf yw rheoli ymchwil, sy’n cynnwys gweithio’n agos gyda’r uned dreialon a chyd-ymchwilwyr i gefnogi’r gwaith o gwblhau pecynnau gwaith sy’n ymwneud â’r treial clinigol, y gwerthusiad o’r broses dulliau cymysg, y gwerthusiad economaidd a’r gweithrediad. Yn ogystal â hyn, bydd deiliad y swydd yn cefnogi’r gwaith parhaus o adrodd (e.e. arianwyr, adrodd ariannol) a chydlynu cyfarfodydd. Mae’r ail faes cyfrifoldeb yn ymwneud ag ymchwil. Yn ogystal â chyfleoedd i fod ynghlwm wrth allbynnau ymchwil (ac arwain yn hynny o beth), byddai deiliad y swydd yn arwain o ran cysylltu â’n partner diwydiant i wneud gwaith profi cysyniad mewn perthynas â hyfforddiant proffesiynol ar y defnydd o ddeallusrwydd artiffisial ym maes gofal iechyd, ac yn cefnogi’r gwaith o lunio ceisiadau am gyllid yn y dyfodol.
Cysylltwch â Kavita Vedhara, ([email protected]) os oes gennych ymholiadau anffurfiol.
Swydd lawn-amser yw hon (35 awr yr wythnos) am gyfnod penodol tan 31 Mai 2027, ac mae ar gael ar unwaith.
Cyflog: £41,064 - £46,049 y flwyddyn (Gradd 6)
Dyddiad hysbysebu: Dydd Iau, 16 Gorffennaf 2026
Dyddiad cau: Dydd Sul, 2 Awst 2026
Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth a chreu gweithle cynhwysol. Rydym o’r farn bod modd gwneud hyn drwy ddenu, datblygu a chadw ystod amrywiol o bobl o lawer o gefndiroedd gwahanol. Felly, rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob rhan o’r gymuned, beth bynnag fo’u rhyw, eu hethnigrwydd, eu hanabledd, eu cyfeiriadedd rhywiol, eu hunaniaeth draws, statws eu perthynas, eu crefydd neu eu cred, eu cyfrifoldebau gofalu neu eu hoedran. Rydym yn croesawu ac yn annog ceisiadau yn arbennig gan y rhai o grwpiau nad ydynt wedi’u cynrychioli’n ddigonol o fewn gweithlu'r Brifysgol, fel y rhai sy'n uniaethu fel LGBT+, o gefndiroedd ethnig leiafrifol neu'r rhai ag anableddau. Er mwyn helpu ein cyflogeion i sicrhau cydbwysedd rhwng eu gwaith a’u bywydau personol, byddwn hefyd yn ystyried cynigion i weithio’n hyblyg neu rannu swydd.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn Gymraeg, ac ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Mae Prifysgol Caerdydd wedi llofnodi Datganiad ar Asesu Ymchwil (DORA) San Francisco, sy'n golygu y byddwn, wrth wneud penderfyniadau cyflogi a dyrchafu, yn gwerthuso ymgeiswyr ar sail safon eu hymchwil, nid ar sail metrigau cyhoeddi na'r cyfnodolyn y mae'r ymchwil wedi’i chyhoeddi ynddo. Ceir rhagor o wybodaeth yma: Asesu ymchwil yn gyfrifol - Ymchwil - Prifysgol Caerdydd