Athro Gwaddodeg a Systemau Gwaddodol
Ysgol Gwyddorau’r Ddaear a’r Amgylchedd, Prifysgol Caerdydd
Mae Ysgol Gwyddorau’r Ddaear a'r Amgylchedd ym Mhrifysgol Caerdydd yn ganolfan amlddisgyblaethol ddeinamig a llwyddiannus sy’n canolbwyntio ar addysg ac ymchwil yn nisgyblaethau’r geowyddorau a daearyddiaeth. Rydym yn awyddus i benodi Athro Gwaddodeg a Systemau Gwaddodol am gyfnod penodol.
Dylech rannu ein brwdfrydedd dros addysg ac ysgolheictod rhyngddisgyblaethol o safon a gallu cyfrannu at ystod o addysgu israddedig ac ôl-raddedig ym maes Gwyddorau’r Ddaear a'r Amgylchedd, gan gynnwys goruchwylio traethodau ymchwil myfyrwyr israddedig a meistr.
Bydd gofyn i'r ymgeisydd llwyddiannus gyfrannu at addysg ac ysgolheictod ym meysydd gwaddodeg a systemau gwaddodol. Rydym yn annog ymchwilwyr a all addysgu ac ysbrydoli dull o ddysgu sy’n cwmpasu gwaddodeg, a phynciau megis dadansoddi gweddau gwaddodol a geodynameg. Yn ogystal, byddai disgwyl i chi gyfrannu at gyrsiau maes preswyl Gwyddorau’r Ddaear, teithiau maes lleol diwrnod o hyd, seminarau, gwaith tîm a goruchwylio gwaith prosiect.
Mae Ysgol Gwyddorau’r Ddaear a’r Amgylchedd yn gymuned fywiog a deinamig sy'n ceisio hyrwyddo cynaliadwyedd drwy addysg, lledaenu, a chyfranogiad uniongyrchol, gan alluogi myfyrwyr a staff i wneud newidiadau cadarnhaol i'n heffaith amgylcheddol, yn enwedig cefnogi datganiad Prifysgol Caerdydd o Argyfwng Hinsawdd ac anelu at ddod yn garbon niwtral (Cwmpas 1 a 2) erbyn 2030. Mae’r Ysgol hefyd wedi ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb, amrywiaeth a gwrth-hiliaeth gan gynnwys siarter Athena SWAN sy’n hyrwyddo arferion cynhwysol mewn pynciau STEMM ym myd addysg uwch. Rydym yn croesawu ymgeiswyr benywaidd ac ymgeiswyr o leiafrifoedd ethnig yn arbennig, gan nad ydynt yn cael eu cynrychioli’n ddigonol ar y lefelau hyn yn yr Ysgol.
Swydd amser llawn (35 awr yr wythnos) yw hon, a bydd ar gael o 1 Medi 2026 am gyfnod penodol o 6 mis.
Gwneir y penodiadau gan ddibynnu ar gymhwyster a phrofiad perthnasol o fewn band cyflog £41,064 - £46,049 y flwyddyn (Gradd 6).
At ddibenion ymholiadau anffurfiol, e-bostiwch Dr Jenny Pike, Pennaeth yr Ysgol: [email protected] neu'r Athro Iain McDonald, Cyfarwyddwr Dysgu ac Addysgu: [email protected]
Am ragor o wybodaeth am weithio ym Mhrifysgol Caerdydd cysylltwch â Claudia Peña, Gweinyddwr Adnoddau Dynol: [email protected]
Rhagor o wybodaeth am Ysgol Gwyddorau'r Ddaear a'r Amgylchedd: https://www.cardiff.ac.uk/cy/earth-environmental-sciences
Nodiadau Pwysig:
Drwy’r system ar-lein yn unig y gall ymgeiswyr gael eu derbyn.
Polisi’r Brifysgol yw defnyddio manyleb yr unigolyn i ddethol pobl ar gyfer y rhestr fer. Dylai ymgeiswyr ddangos tystiolaeth eu bod yn bodloni POB UN o’r meini prawf hanfodol, yn ogystal â’r rhai dymunol pan fo’n berthnasol. Yn rhan o’r broses ymgeisio, bydd gofyn i chi roi’r dystiolaeth hon ar ffurf datganiad ategol. Gofalwch fod eich tystiolaeth yn cyfateb i'r meini prawf a rifwyd, sy’n cael eu hamlinellu ym Manyleb yr Unigolyn. Caiff eich cais ei ystyried ar sail yr wybodaeth a rowch yn unol â phob elfen.
Wrth atodi’r datganiad i gefnogi eich cais wrth broffil eich cais, cofiwch roi cyfeirnod y swydd wag yn nheitl y ddogfen.
Dyddiad hysbysebu: Dydd Iau, 23 Gorffennaf 025
Dyddiad cau: Dydd Iau, 6 Awst 2026
Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth a chreu gweithle cynhwysol. Rydym o’r farn bod modd gwneud hyn drwy ddenu, datblygu a chadw ystod amrywiol o bobl o lawer o gefndiroedd gwahanol. Felly, rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob rhan o’r gymuned, beth bynnag fo’u rhyw, eu hethnigrwydd, eu hanabledd, eu cyfeiriadedd rhywiol, eu hunaniaeth draws, statws eu perthynas, eu crefydd neu eu cred, eu cyfrifoldebau gofalu neu eu hoedran. Rydym yn croesawu ac yn annog ceisiadau yn arbennig gan y rhai o grwpiau nad ydynt wedi’u cynrychioli’n ddigonol o fewn gweithlu'r Brifysgol, fel y rhai sy'n uniaethu fel LGBT+, o gefndiroedd ethnig leiafrifol neu'r rhai ag anableddau. Er mwyn helpu ein cyflogeion i sicrhau cydbwysedd rhwng eu gwaith a’u bywydau personol, byddwn hefyd yn ystyried cynigion i weithio’n hyblyg neu rannu swydd.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn Gymraeg, ac ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.