Technegydd – Sgiliau Efelychu a Chlinigol
Ysgol y Gwyddorau Gofal Iechyd
Rydym am benodi Technegydd i weithio yn y Tîm Efelychu yn Ysgol y Gwyddorau Gofal Iechyd.
Bydd deiliad y swydd yn:
• Cynnig gwasanaeth i staff a myfyrwyr drwy gynnal a chadw, gwasanaethu (gan gynnwys profi dyfeisiau cludadwy) a thrwsio deunyddiau, peiriannau ac offer, gan gynghori a hyfforddi staff a myfyrwyr am y ffordd briodol o’u defnyddio a sôn am unrhyw ddiffygion yn yr offer i uwch-aelodau o’r tîm
• Paratoi, symud a gosod offer a nwyddau traul sy’n cefnogi gweithgareddau dysgu ac asesu hanfodol mewn sawl amgylchedd dysgu, gan gynnwys eu dadosod ar ôl pob sesiwn.
• Paratoi'r holl ddeunyddiau ac offer fel y bo angen at ddefnydd cwsmeriaid, a sicrhau y cedwir yr ardal rydych yn gyfrifol amdani yn lân ac yn daclus
• Rheoli stoc, gan sicrhau diogelwch a lefelau stoc digonol, a bod y stoc yn cael ei dosbarthu yn ôl yr angen
Bydd y canlynol gan yr ymgeisydd llwyddiannus:
• Profiad o ddefnyddio a chynnal a chadw offer
• Profiad o ddefnyddio pecynnau TG gan gynnwys Microsoft Office 365
• Y gallu i ymdrin â chwsmeriaid a chyflogeion eraill mewn modd proffesiynol
• Tystiolaeth o allu i weithio'n effeithiol fel aelod o dîm, gan roi cyngor ac arweiniad i aelodau eraill o’r tîm lle bo angen
Os am sgwrs anffurfiol, cysylltwch â Joanne Owen (
[email protected]).
Swydd ran-amser (28 awr yr wythnos) yw hon. Mae ar gael am gyfnod penodol o flwyddyn o 1 Medi 2026 tan 31 Awst 2027.
Lleolir y swydd ar Gampws Parc y Mynydd Bychan.
Croesewir ceisiadau i gael secondiad – os ydych yn aelod o staff Prifysgol Caerdydd sydd â diddordeb yn y swydd hon ar sail secondiad, bydd yn rhaid i chi geisio caniatâd gan eich rheolwr llinell cyn gwneud cais.
Cyflog: £25,249 i £26,093 y flwyddyn, pro rata (Gradd 3).
Sylwer bod unigolion yn cael eu penodi ar waelod y raddfa gyflog fel arfer ym Mhrifysgol Caerdydd, ac eithrio o dan amgylchiadau eithriadol.
Dyddiad hysbysebu: Dydd Gwener, 7 Awst 2026
Dyddiad cau: Dydd Gwener, 21 Awst 2026
Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth a chreu gweithle cynhwysol. Rydym o’r farn bod modd gwneud hyn drwy ddenu, datblygu a chadw ystod amrywiol o bobl o lawer o gefndiroedd gwahanol. Felly, rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob rhan o’r gymuned, beth bynnag fo’u rhyw, eu hethnigrwydd, eu hanabledd, eu cyfeiriadedd rhywiol, eu hunaniaeth draws, statws eu perthynas, eu crefydd neu eu cred, eu cyfrifoldebau gofalu neu eu hoedran. Rydym yn croesawu ac yn annog ceisiadau yn arbennig gan y rhai o grwpiau nad ydynt wedi’u cynrychioli’n ddigonol o fewn gweithlu'r Brifysgol, fel y rhai sy'n uniaethu fel LGBT+, o gefndiroedd du, Asiaidd ac ethnig leiafrifol neu'r rhai ag anableddau. Er mwyn helpu ein cyflogeion i sicrhau cydbwysedd rhwng eu gwaith a’u bywydau personol, byddwn hefyd yn ystyried cynigion i weithio’n hyblyg neu rannu swydd.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn Gymraeg, ac ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.