Darlithydd yn y Gyfraith - Addysgu ac Ymchwil
Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth
Mae Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth ym Mhrifysgol Caerdydd yn dymuno penodi Darlithwyr (Gradd 7) yn y Gyfraith.
Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn athrawon ac ysgolheigion rhagorol. Bydd ganddynt PhD neu arbenigedd proffesiynol cyfatebol yn y Gyfraith neu faes tebyg. Bydd gan yr ymgeiswyr llwyddiannus agenda ymchwil uchelgeisiol sy’n cefnogi a/neu’n ehangu cryfderau ymchwil cyfredol yr Ysgol. Ar gyfer y swyddi hyn, y meysydd penodol o arbenigedd ymchwil gyfreithiol ac addysgu o fewn y Gyfraith yw Cyfraith Tir, Cyfraith Ecwiti ac Ymddiriedolaethau, Cyfraith Camwedd, Cyfraith Feddygol a Chyfraith Gyhoeddus. Mae addysg Cyfraith Feddygol yn cynnwys addysgu ar y penwythnos ar y rhaglen meistr Agweddau Cyfreithiol ar Ymarfer Meddygol.
Mae’n bosibl y bydd deiliaid y swyddi hefyd yn goruchwylio myfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig ac yn cyfrannu at weinyddu a rheoli Ysgol y Gyfraith yn llwyddiannus.
Mae'r swyddi’n benagored ac ar gael ar sail amser llawn (35 awr) neu’n rhan-amser. Er mwyn helpu ein cyflogeion i gael cydbwysedd rhwng eu gwaith a’u bywyd personol, byddwn hefyd yn ystyried cynigion i weithio’n hyblyg neu i rannu’r swydd.
Cyfeiriwch unrhyw ymholiadau sy’n ymwneud â'r swydd hon at Bennaeth yr Ysgol drwy e-bostio [email protected]
Cyflog: £51,753 - £56,535 y flwyddyn (Gradd 7)
Mae unigolion a benodir i swyddi ym Mhrifysgol Caerdydd fel arfer yn dechrau ar waelod y raddfa gyflog, ac eithrio mewn amgylchiadau eithriadol.
Dyddiad hysbysebu: Dydd Mercher, 5 Awst 2026
Dyddiad cau: Dydd Sul, 23 Awst 2026
Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth a chreu gweithle cynhwysol. Rydym o’r farn bod modd gwneud hyn drwy ddenu, datblygu a chadw ystod amrywiol o bobl o lawer o gefndiroedd gwahanol. Felly, rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob rhan o’r gymuned, beth bynnag fo’u rhyw, eu hethnigrwydd, eu hanabledd, eu cyfeiriadedd rhywiol, eu hunaniaeth draws, statws eu perthynas, eu crefydd neu eu cred, eu cyfrifoldebau gofalu neu eu hoedran. Rydym yn croesawu ac yn annog ceisiadau yn arbennig gan y rhai o grwpiau nad ydynt wedi’u cynrychioli’n ddigonol o fewn gweithlu'r Brifysgol, fel y rhai sy'n uniaethu fel LGBT+, o gefndiroedd du, Asiaidd ac ethnig leiafrifol neu'r rhai ag anableddau. Er mwyn helpu ein cyflogeion i sicrhau cydbwysedd rhwng eu gwaith a’u bywydau personol, byddwn hefyd yn ystyried cynigion i weithio’n hyblyg neu rannu swydd.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn Gymraeg, ac ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Mae Prifysgol Caerdydd wedi llofnodi Datganiad ar Asesu Ymchwil (DORA) San Francisco, sy'n golygu y byddwn, wrth wneud penderfyniadau cyflogi a dyrchafu, yn gwerthuso ymgeiswyr ar sail safon eu hymchwil, nid ar sail metrigau cyhoeddi na'r cyfnodolyn y mae'r ymchwil wedi’i chyhoeddi ynddo. Ceir rhagor o wybodaeth yma: Asesu ymchwil yn gyfrifol - Ymchwil - Prifysgol Caerdydd