Cymrawd Ymchwil mewn Ansawdd Dŵr a Gwyddor Data Amgylcheddol
Ysgol y Biowyddorau / Yr Ysgol Gwyddorau'r Ddaear a'r Amgylchedd
Rydym yn chwilio am Gymrawd Ymchwil hynod frwdfrydig i arwain ymchwil ar risgiau blas ac arogl mewn cronfeydd dŵr yfed, gan weithio mewn partneriaeth â chwmnïau dŵr mawr y DU. Mae'r rôl yn cynnwys cymhwyso gwyddor data amgylcheddol, modelu a dadansoddi rhwydwaith i ddatblygu dealltwriaeth o ansawdd dŵr a dynameg algâu. Byddwch yn datblygu cynigion ymchwil, yn cyhoeddi allbynnau o safon, ac yn cydweithio â phartneriaid academaidd ac ym myd diwydiant. Bydd deiliad y swydd yn cyfrannu at y gwaith o reoli prosiectau, goruchwylio myfyrwyr, ac ymgysylltu â rhanddeiliaid, wrth helpu i ddatblygu rhwydweithiau ymchwil effeithiol. Mae'r rôl hon yn cynnig cyfle gwych i gyflawni ymchwil arloesol, gymhwysol sy’n cael effaith go iawn ar yr amgylchedd a byd diwydiant.
Gallwn roi’r cyfle i chi weithio mewn sefydliad bywiog, gyda buddion gwych.
Croesewir ymholiadau anffurfiol, a gellir eu cyfeirio, yn y lle cyntaf, at yr Athrawon Rupert Perkins ([email protected]) a Peter Kille ([email protected]).
Ar hyn o bryd mae'r swydd yn un llawn amser am 35 awr yr wythnos ac am gyfnod penodol, ar gael o 1 Awst 2026 tan 31 Gorffennaf 2027.
Cyflog: £41,064 - £46,049 y flwyddyn (Gradd 6). Ym Mhrifysgol Caerdydd, bydd unigolion fel arfer yn dechrau ar waelod y raddfa gyflog, ac eithrio o dan amgylchiadau eithriadol.
Mae Prifysgol Caerdydd yn cynnig pecyn buddion gwych, sy’n cynnwys 45 diwrnod o wyliau blynyddol (gan gynnwys gwyliau banc), cynllun pensiwn lleol, cynllun beicio i'r gwaith a mentrau teithio eraill, cynyddrannau blynyddol ar hyd y raddfa gyflog, a mwy. Mae’n lle cyffrous a bywiog i weithio, gyda nifer o heriau gwahanol. Rydym hefyd yn falch o gefnogi’r Cyflog Byw.
Dyddiad hysbysebu: Dydd Gwener, 7 Awst 2026
Dyddiad cau: Dydd Gwener, 21Awst 2026
Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth a chreu gweithle cynhwysol. Rydym o’r farn bod modd gwneud hyn drwy ddenu, datblygu a chadw ystod amrywiol o bobl o lawer o gefndiroedd gwahanol. Felly, rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob rhan o’r gymuned, beth bynnag fo’u rhyw, eu hethnigrwydd, eu hanabledd, eu cyfeiriadedd rhywiol, eu hunaniaeth draws, statws eu perthynas, eu crefydd neu eu cred, eu cyfrifoldebau gofalu neu eu hoedran. Rydym yn croesawu ac yn annog ceisiadau yn arbennig gan y rhai o grwpiau nad ydynt wedi’u cynrychioli’n ddigonol o fewn gweithlu'r Brifysgol, fel y rhai sy'n uniaethu fel LGBT+, o gefndiroedd ethnig leiafrifol neu'r rhai ag anableddau. Er mwyn helpu ein cyflogeion i sicrhau cydbwysedd rhwng eu gwaith a’u bywydau personol, byddwn hefyd yn ystyried cynigion i weithio’n hyblyg neu rannu swydd.
Mae Prifysgol Caerdydd wedi llofnodi Datganiad San Francisco ar Asesu Ymchwil (DORA), sy'n golygu y byddwn, wrth wneud penderfyniadau cyflogi a dyrchafu, yn gwerthuso ymgeiswyr ar sail safon eu hymchwil, nid ar sail metrigau cyhoeddi na'r cyfnodolyn y mae'r ymchwil wedi’i chyhoeddi ynddo. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma: Asesu ymchwil yn gyfrifol – Ymchwil – Prifysgol Caerdydd
Cewch gyflwyno cais yn Gymraeg, ac ni chaiff cais a gyflwynir yn Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.