Sylwch: Mae’r swydd wag hon yn cael ei hail-hysbysebu. Dylai’r ymgeiswyr blaenorol beidio â gwneud cais eto
Darlithydd mewn Cyfraith Broffesiynol (Addysgu ac Ysgolheictod) - Astudiaethau Cyfreithiol Proffesiynol Caerdydd
Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth
Astudiaethau Cyfreithiol Proffesiynol Caerdydd yw’r adran yn Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth sy’n cynnig y cwrs Diploma Graddedig yn y Gyfraith (GDL), y Cwrs Ymarfer Cyfreithwyr (SPC) a Chwrs Hyfforddiant y Bar (BTC) ar hyn o bryd – llwybrau ôl-raddedig i gymhwyster proffesiynol ar gyfer bargyfreithwyr a chyfreithwyr. Prifysgol Caerdydd yw'r unig brifysgol yng Ngrŵp Russell sy’n cynnig y cyrsiau hyn i gyd. Mae’r adran hefyd yn asesu cyfreithwyr ar ddyletswydd, cynrychiolwyr yng ngorsafoedd yr heddlu a thystion arbenigol yn genedlaethol. Staff â chymwysterau proffesiynol sy’n cynnal y cyrsiau hyn sydd wedi ennill eu plwyf. Maen nhw’n uchel eu parch yn y proffesiwn ac yn cael adborth rhagorol gan fyfyrwyr.
Mae'r Ysgol am benodi darlithydd â chymwysterau priodol sy’n gallu cyfrannu at addysgu ei holl raglenni, gan ganolbwyntio’n benodol ar gyrsiau Astudiaethau Cyfreithiol Proffesiynol Caerdydd (CPLS). Mae'r gallu i addysgu un neu ragor o fodiwlau galwedigaethol yn rhan o Gwrs Hyfforddiant y Bar a’r Cwrs Ymarferwyr Cyfreithwyr yn hanfodol, yn ogystal â'r gallu i gyflwyno hyfforddiant sgiliau cyfreithiol.
Swydd amser llawn (35 awr yr wythnos) a phenagored yw hon, ac mae modd dechrau ar unwaith. Ystyrir ceisiadau i weithio’n rhan-amser ond bydd yn dibynnu ar anghenion yr Ysgol.
Cyflog: £51,039 - £55,755 y flwyddyn (Gradd 7)
Ym Mhrifysgol Caerdydd, penodir fel arfer ar waelod y raddfa, oni bai bod amgylchiadau eithriadol
Anfonwch unrhyw gwestiynau ynghylch y swydd hon at Jetsun Lebasci, Pennaeth Astudiaethau Cyfreithiol Proffesiynol Caerdydd, drwy e-bostio
[email protected]
Gwefan: http://www.cardiff.ac.uk/cy/law-politics
Dyddiad hysbysebu: Dydd Mawrth, 4 Awst 2026
Dyddiad cau: Dydd Gwener, 21 Awst 2026
Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth a chreu gweithle cynhwysol. Rydym o’r farn bod modd gwneud hyn drwy ddenu, datblygu a chadw ystod amrywiol o bobl o lawer o gefndiroedd gwahanol. Felly, rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob rhan o’r gymuned, beth bynnag fo’u rhyw, eu hethnigrwydd, eu hanabledd, eu cyfeiriadedd rhywiol, eu hunaniaeth draws, statws eu perthynas, eu crefydd neu eu cred, eu cyfrifoldebau gofalu neu eu hoedran. Rydym yn croesawu ac yn annog ceisiadau yn arbennig gan y rhai o grwpiau nad ydynt wedi’u cynrychioli’n ddigonol o fewn gweithlu'r Brifysgol, fel y rhai sy'n uniaethu fel LGBT+, o gefndiroedd du, Asiaidd ac ethnig leiafrifol neu'r rhai ag anableddau. Er mwyn helpu ein cyflogeion i sicrhau cydbwysedd rhwng eu gwaith a’u bywydau personol, byddwn hefyd yn ystyried cynigion i weithio’n hyblyg neu rannu swydd.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn Gymraeg, ac ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.