Cynorthwyydd Ymchwil Biodelweddu
Ysgol y Biowyddorau
Byddwch yn ymuno â phrosiect Gwobr Darganfod a ariennir gan Ymddiriedolaeth Wellcome a’i nod yw datblygu technoleg microsgopeg amlffotonau drawsnewidiol i’w defnyddio ym maes mecanofioleg meinweoedd mwcosaidd.
Arwynebau mwcosaidd yw'r prif ryngwyneb rhwng yr amgylchedd a'n horganeb. Yn yr ysgyfaint, mae mwcws yn rhwystr sy'n dal pathogenau/nanoronynnau estron ac yn cael ei symud i'r oesoffagws drwy guriadau ciliaraidd cydlynol celloedd epithelaidd. Mae fisgoelastigedd mwcws yn hanfodol i'r symudiad hwn, ac mae clirio mwcogiliaraidd gwael yn cydberthyn i glefydau'r ysgyfaint.
Bydd y dechnoleg newydd a ddatblygir yn y prosiect hwn yn mesur fisgoelastigedd mwcws trwy olrhain llwybrau nanochwiliedyddion unigol gyda manwl gywirdeb nanoraddfeydd digynsail a bydd yn cysoni strwythur/cyfansoddiad 3D â meinweoedd byw yn gydberthynol drwy ddatrysiad isgellog a phenodolrwydd cemegol moleciwlaidd. Bydd y dechnoleg yn cael ei chymhwyso i feinweoedd ysgyfaint iach ac afiach a modelau cellog, mewn ymateb i sbardunau llidiol, heintiau a chyffuriau. Bydd yr ymchwil hon yn datgloi darganfyddiadau newydd ynghylch sut mae mecaneg mwcws yn gysylltiedig â llwybrau rheoleiddio cellog/moleciwlaidd, gan gynnwys ailfodelu/ffibrosis y llwybrau anadlu, sef angen meddygol enfawr sydd heb ei ddiwallu hyd yn hyn.
Bydd eich rôl yn y prosiect yn cyfrannu at ddatblygu caledwedd microsgopau a fydd yn cynnwys delweddu ac olrhain cymysgu pedair ton, gwasgariad Raman cydlynol, ail gynhyrchu harmonig, trydydd cynhyrchu harmonig a fflwroleuedd dau ffoton, pob un wedi'i integreiddio yn rhan o un offeryn. Byddwch yn cynorthwyo prosesau caffael data, dadansoddi a dehongli gwyddonol. Byddwch yn cyhoeddi ac yn lledaenu canlyniadau gwyddonol.
Byddwch yn gweithio mewn grŵp ymchwil bywiog ar y rhyngwyneb rhwng ffiseg a gwyddor bywyd. Byddwch yn gweithio ym Mhrifysgol Caerdydd sy’n cynnig manteision arbennig ac yn cydweithio â'n cydweithwyr ar y prosiect ym Mhrifysgol Caergrawnt.
Croesewir ymholiadau anffurfiol a gellir eu cyfeirio yn y lle cyntaf, at Paola Borri ([email protected].)
Swydd amser llawn yw hon (35 awr yr wythnos) am gyfnod penodol o 3 blynedd.
Cyflog: £41,064 - £46,049 y flwyddyn (Gradd 6). Ym Mhrifysgol Caerdydd, bydd unigolion fel arfer yn dechrau ar waelod y raddfa gyflog, ac eithrio o dan amgylchiadau eithriadol.
Dyddiad hysbysebu: Dydd Llun, 3 Awst 2026
Dyddiad cau: Dydd Llun, 31 Awst 2026
Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth a chreu gweithle cynhwysol. Rydym o’r farn bod modd gwneud hyn drwy ddenu, datblygu a chadw ystod amrywiol o bobl o lawer o gefndiroedd gwahanol. Felly, rydym yn croesawu ymgeiswyr o bob rhan o’r gymuned, beth bynnag fo’u rhyw, eu hethnigrwydd, eu hanabledd, eu cyfeiriadedd rhywiol, eu hunaniaeth draws, statws eu perthynas, eu crefydd neu eu cred, eu cyfrifoldebau gofalu neu eu hoedran. Er mwyn cefnogi ein cyflogeion gael cydbwysedd rhwng eu gwaith a’u bywydau personol, byddwn hefyd yn ystyried cynigion i weithio’n hyblyg neu rannu’r swydd.
Mae Prifysgol Caerdydd wedi llofnodi Datganiad San Francisco ar Asesu Ymchwil (DORA), sy'n golygu y byddwn, wrth wneud penderfyniadau cyflogi a dyrchafu, yn gwerthuso ymgeiswyr ar sail safon eu hymchwil, nid ar sail metrigau cyhoeddi na'r cyfnodolyn y mae'r ymchwil wedi’i chyhoeddi ynddo. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma: Asesu ymchwil yn gyfrifol – Ymchwil – Prifysgol Caerdydd
Cewch gyflwyno cais yn Gymraeg, ac ni chaiff cais a gyflwynir yn Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.