Mae'r swydd hon ar agor i weithwyr Prifysgol Caerdydd yn unig ar hyn o bryd. Peidiwch ymgeisio os nad oes ganddoch gytundeb cyflogaeth ddilys gyda’r brifysgol.
Ymgeiswyr Mewnol yn Unig – Peiriannydd Diogelwch Seiber – Hyb Arloesedd
Seiber
Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg
Coleg y Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg
Mae cyfle cyffrous newydd
wedi codi i Beiriannydd Seiberddiogelwch amser llawn fel rhan o'r Hyb Arloesedd
Seiber (CIH), rhaglen a ariennir gan Lywodraeth Cymru a Phrifddinas-Ranbarth
Caerdydd (CCR) sy'n gwneud Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn ganolfan busnesau
seiber. Mae’r Hyb Arloesedd Seiber yn gwneud hyn drwy gynyddu busnesau newydd
sy'n seiliedig ar seiberddiogelwch yn y rhanbarth, darparu rhaglen sgiliau sydd
wedi'i thargedu at ddatblygiad proffesiynol parhaus yn unol ag anghenion y
diwydiant lleol a darparu meysydd profi AI seiberddiogelwch cynrychioliadol.
Gan weithio fel rhan o dîm, bydd y Peiriannydd Seiberddiogelwch yn dylunio,
gweithredu a chynnal systemau diogel ac amgylcheddau profi, cefnogi datblygiad
a dilysu atebion diogelwch arloesol, a chyfrannu arbenigedd technegol at
brosiectau’r Hyb. Bydd y rôl yn cynnwys asesu a lliniaru risgiau seiber, cynnal
profion diogelwch a sicrhau bod seilwaith a phrosiectau cydweithredol yr Hyb yn
cadw at safonau diogelwch arfer gorau. Bydd eich gwaith yn cefnogi cenhadaeth
yr Hyb yn uniongyrchol drwy gryfhau sylfeini technegol y rhaglen, galluogi
arloesedd mwy diogel, a chyfrannu at ganlyniadau sy'n darparu budd economaidd i
Gymru (gan gynnwys hyfforddiant, creu swyddi a chyfleoedd masnachol newydd).
Byddwch yn
gyfrifol am gefnogi'r tîm peirianwyr technoleg gwybodaeth/technoleg weithredol
presennol i ddatblygu pensaernïaeth systemau diogel, gweithredu rheolaethau
seiberddiogelwch cadarn, a chynnal seilwaith gwydn ar draws amgylcheddau
gweithredol a menter. Byddwch yn cyfrannu at ddylunio, profi a defnyddio
atebion diogelwch, monitro bygythiadau, ymateb i ddigwyddiadau, a sicrhau
cydymffurfiaeth â safonau diogelwch arfer gorau. Bydd eich gwaith yn helpu i
gryfhau cyflwr diogelwch y sefydliad wrth alluogi arloesedd diogel a
pherfformiad system ddibynadwy.
Mae gweithio
cyfunol yn bosibl wrth wneud y swydd hon. Mae hynny’n golygu, yn ogystal â
threulio amser yn gweithio yn SBARC/Abacws, y
cewch ddewis gweithio o leoliad arall, e.e. eich cartref, rywfaint o’r amser.
Gall trafodaethau ynghylch y trefniadau hyn gael eu cynnal ar ôl penodi'r
ymgeisydd llwyddiannus. Mae’r Brifysgol wedi ymrwymo i gynnig yr hyblygrwydd
hwn pan fo’r swydd ac anghenion y busnes yn caniatáu hynny er mwyn eich helpu i
sicrhau cydbwysedd rhwng eich gwaith a’ch bywyd personol.
Swydd amser llawn (35 awr yr wythnos) yw
hon, sydd ar gael ar unwaith ac am gyfnod penodol tan 31 Gorffennaf 2027.
I gael sgwrs anffurfiol am y rôl, cysylltwch â Phennaeth Gweithrediadau’r Hyb
Arloesedd Seiber, Matthew Turner – [email protected].
I gael
trafodaethau anffurfiol am yr ysgol Gyfrifiadureg a Gwybodeg cysylltwch â Dr
Kathryn Jones – [email protected].
Anfonwch neges e-bost at Simon Hogg, Swyddog AD – [email protected] i ofyn cwestiynau am y broses recriwtio /
ymgeisio.
Cyflog: £33,951 y flwyddyn (Gradd 5), i
ddechrau gyda thair cynyddran flynyddol hyd at £36,636 y flwyddyn, ar frig y raddfa.
Dyddiad cau: Dydd Gwener, 31 Gorffennaf 2026
Nid yw ceisiadau allanol yn cael eu hystyried ar gyfer y swydd hon ar hyn o bryd. Os penderfynir agor y swydd i ymgeiswyr allanol, bydd yr isbennawd ar y brig yn cael ei thynnu a rhoddir digon o amser i chi wneud cais - cadwch olwg ar y dudalen am fanylion.
Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth a chreu gweithle cynhwysol. Rydym o’r farn bod modd gwneud hyn drwy ddenu, datblygu a chadw ystod amrywiol o bobl o lawer o gefndiroedd gwahanol. Felly, rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob rhan o’r gymuned, beth bynnag fo’u rhyw, eu hethnigrwydd, eu hanabledd, eu cyfeiriadedd rhywiol, eu hunaniaeth draws, statws eu perthynas, eu crefydd neu eu cred, eu cyfrifoldebau gofalu neu eu hoedran. Rydym yn croesawu ac yn annog ceisiadau yn arbennig gan y rhai o grwpiau nad ydynt wedi’u cynrychioli’n ddigonol o fewn gweithlu'r Brifysgol, fel y rhai sy'n uniaethu fel LGBT+, o gefndiroedd ethnig leiafrifol neu'r rhai ag anableddau. Er mwyn helpu ein cyflogeion i sicrhau cydbwysedd rhwng eu gwaith a’u bywydau personol, byddwn hefyd yn ystyried cynigion i weithio’n hyblyg neu rannu swydd.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn Gymraeg, ac ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.