Mae'r swydd hon ar agor i weithwyr Prifysgol Caerdydd yn unig ar hyn o bryd. Peidiwch ymgeisio os nad oes ganddoch gytundeb cyflogaeth ddilys gyda’r brifysgol.
Ymgeiswyr Mewnol yn Unig – Dirprwy Reolwr Clinig y Gyfraith / Ymarferydd Clinig Cyfraith Masnach
Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth
Mae Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth Caerdydd yn parhau i fuddsoddi’n sylweddol yn ein gweithgarwch pro bono. Rydyn ni wedi ehangu ein gweithgarwch cenhadaeth cyfiawnder cymdeithasol trwy gynnig cyngor i'r gymuned leol yng Nghaerdydd. Rydyn ni’n helpu pobl i ymdrin â'u materion cyfreithiol trwy Glinig y Gyfraith at ddefnydd y cyhoedd. Mae'r swydd hon i ategu'r gweithgarwch hwnnw a chynnig gwydnwch trwy rôl Dirprwy Reolwr Clinig y Gyfraith.
Rydyn ni’n chwilio am gyfreithiwr, bargyfreithiwr neu weithredwr cyfreithiol siartredig â chymwysterau proffesiynol, sydd â thystysgrif ymarfer perthnasol heb gyfyngiadau ac yn ddelfrydol â thair blynedd neu fwy o brofiad ar ôl-cymhwyso. Yn ddelfrydol, bydd ganddyn nhw hefyd y gallu a'r profiad i ddatblygu a rheoli cangen fasnachol/gorfforaethol/fusnes i'n clinig y gyfraith, yn lleoliad Clinig y Gyfraith ein Clybiau Chwaraeon i ddechrau. Bydd ganddynt y weledigaeth a'r uchelgais i gymryd rhan yn barhaus yn ein clinig y gyfraith ehangach, gan gynorthwyo a goruchwylio myfyrwyr i roi cyngor a chymorth i aelodau o'r gymuned leol.
Byddant yn cefnogi Rheolwr Clinig y Gyfraith a'r tîm clinig/cyflogaeth wrth gydgrynhoi/ehangu ein portffolio clinigol ehangach, gan gynnwys cymryd cyfrifoldeb academaidd am ein Blwyddyn ar Leoliad Proffesiynol.
Bydd y sawl a benodir hefyd yn gyfrifol am gyflwyno elfennau o'r cwricwlwm sy'n cael eu harwain gan sgiliau/cyflogaeth, gan gynnwys ein hysgolion haf. Mae profiad blaenorol o addysgu ac yng nghlinig y gyfraith yn ddymunol.
I gael rhagor o wybodaeth neu sgwrs anffurfiol, cysylltwch â chyd-Benaethiaid Addysg Gyfreithiol Glinigol a Pro Bono, yr Athro Julie Price ([email protected]) neu Hannah Marchant ([email protected]).
Swydd amser llawn a phenagored (35 awr yr wythnos) yw hon ac mae modd dechrau ar unwaith.
Cyflog: £51,753 – £56,535 y flwyddyn (Gradd 7)
Ym Mhrifysgol Caerdydd, bydd unigolion fel arfer yn dechrau ar waelod y raddfa gyflog, ac eithrio o dan amgylchiadau eithriadol.
Mae cyfweliadau wedi'u cynllunio ar gyfer 8 Medi. Gofynnwn yn garedig i'r ymgeiswyr gadw'r dyddiad hwn ar gael, gan y byddai'n bosibl na fydd dyddiadau cyfweliad amgen ar gael.
Dyddiad cau: Dydd Gwener, 31 Gorffennaf 2026
Nid yw ceisiadau allanol yn cael eu hystyried ar gyfer y swydd hon ar hyn o bryd. Os penderfynir agor y swydd i ymgeiswyr allanol, bydd yr isbennawd ar y brig yn cael ei thynnu a rhoddir digon o amser i chi wneud cais - cadwch olwg ar y dudalen am fanylion.
Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth a chreu gweithle cynhwysol. Rydym o’r farn bod modd gwneud hyn drwy ddenu, datblygu a chadw ystod amrywiol o bobl o lawer o gefndiroedd gwahanol. Felly, rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob rhan o’r gymuned, beth bynnag fo’u rhyw, eu hethnigrwydd, eu hanabledd, eu cyfeiriadedd rhywiol, eu hunaniaeth draws, statws eu perthynas, eu crefydd neu eu cred, eu cyfrifoldebau gofalu neu eu hoedran. Rydym yn croesawu ac yn annog ceisiadau yn arbennig gan y rhai o grwpiau nad ydynt wedi’u cynrychioli’n ddigonol o fewn gweithlu'r Brifysgol, fel y rhai sy'n uniaethu fel LGBT+, o gefndiroedd ethnig leiafrifol neu'r rhai ag anableddau. Er mwyn helpu ein cyflogeion i sicrhau cydbwysedd rhwng eu gwaith a’u bywydau personol, byddwn hefyd yn ystyried cynigion i weithio’n hyblyg neu rannu swydd.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn Gymraeg, ac ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.