• Advertising End DateAdvertising End Date:
    30 Gor 2026
  • Grŵp SwyddiGrŵp Swyddi
    Academaidd (gan gynnwys Addysgu, Ymchwil a Graddedigion)
  • Math o Swydd
    Ymchwil
  • ID Swydd WagID Swydd Wag:
    454
  • Cyflog a hysbysebirManylion y Cyflog:
    £33,951 - £36,636 per annum (Grade 5)
  • Statws ContractStatws Contract
    Llawn Amser
  • Math o GontractMath o Gontract:
    Tymor Sefydlog
  • Hysbyseb Swydd

  • Mae'r swydd hon ar agor i weithwyr Prifysgol Caerdydd yn unig ar hyn o bryd.  Peidiwch ymgeisio os nad oes ganddoch gytundeb cyflogaeth ddilys gyda’r brifysgol.

    Ymgeiswyr Mewnol yn Unig – Cynorthwyydd Ymchwil
    Isadran Canser a Geneteg
    Yr Ysgol Meddygaeth
    Coleg y Gwyddorau Biofeddygol a Bywyd


    Mae Biofanc Canser Cymru (WCB), sydd wedi'i leoli yn Adran Canser a Geneteg ym Mhrifysgol Caerdydd, yn chwilio am Gynorthwyydd Ymchwil llawn amser (35 awr yr wythnos). Bydd deiliad y swydd yn cysylltu ag ymchwilwyr sy'n gwneud cais i ddefnyddio'r adnodd biosamplau ac yn cynorthwyo gyda rheoli ceisiadau ymchwil i sicrhau bod olrhain prosiectau cadarn yn cael ei gynnal. Bydd gofyn i ddeiliad y swydd hefyd ymgymryd â dyletswyddau casglu data a mewnbwn data, gan echdynnu gwybodaeth feddygol berthnasol o systemau electronig clinigol a gweithredu ymholiadau i baru ceisiadau sampl â rhestr eiddo.

    Bydd y swydd hefyd yn cynnwys siarad â chleifion canser i gael eu caniatâd i'r WCB gael mynediad at fio-samplau a'u storio ar gyfer ymchwil sy'n gysylltiedig â chanser. Bydd hyn yn ei gwneud yn ofynnol i ddeiliad y swydd weithio gyda chleifion ac amrywiaeth o weithwyr gofal iechyd proffesiynol, staff labordy ac ymchwilwyr canser, sy'n golygu y bydd sgiliau rhyngbersonol a gwaith tîm rhagorol yn hanfodol. Rhaid i ddeiliad y swydd allu gweithio ar ei fenter ei hun a heb oruchwyliaeth i derfynau amser a bod yn hyddysg wrth gynllunio a threfnu ei lwyth gwaith ei hun. Mae rhagor o wybodaeth am Fiobanc Canser Cymru ar gael ar y wefan www.walescancerbank.com.

    Mae Prifysgol Caerdydd yn cynnig llawer o fuddion rhagorol, gan gynnwys 45 diwrnod o wyliau blynyddol (gan gynnwys gwyliau banc), cynllun pensiwn, cynllun beicio i'r gwaith a mentrau teithio eraill, cynnydd blynyddol o fewn y raddfa gyflog, a mwy. Mae'n lle cyffrous a bywiog i weithio, gyda llawer o heriau gwahanol ac mae'n gefnogwr balch o'r Cyflog Byw.

    Am ymholiadau anffurfiol, cysylltwch â Dr Lisa Spary, Rheolwr Gweithrediadau Biofanc Canser Cymru – [email protected].

    Mae'r swydd hon yn llawn amser (35 awr yr wythnos), tymor penodol am 2 flynedd ac ar gael ar unwaith.

    Cyflog: £33,951 - £36,636 y flwyddyn (Gradd 5). Fel arfer, gwneir penodiadau ar waelod y raddfa, ac eithrio mewn amgylchiadau eithriadol.

    Dyddiad cau: Dydd Iau, 30 Gorffennaf 2026

    Nid yw ceisiadau allanol yn cael eu hystyried ar gyfer y swydd hon ar hyn o bryd.  Os penderfynir agor y swydd i ymgeiswyr allanol, bydd yr isbennawd ar y brig yn cael ei thynnu a rhoddir digon o amser i chi wneud cais - cadwch olwg ar y dudalen am fanylion.

    Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth a chreu gweithle cynhwysol. Rydym o’r farn bod modd gwneud hyn drwy ddenu, datblygu a chadw ystod amrywiol o bobl o lawer o gefndiroedd gwahanol. Felly, rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob rhan o’r gymuned, beth bynnag fo’u rhyw, eu hethnigrwydd, eu hanabledd, eu cyfeiriadedd rhywiol, eu hunaniaeth draws, statws eu perthynas, eu crefydd neu eu cred, eu cyfrifoldebau gofalu neu eu hoedran. Rydym yn croesawu ac yn annog ceisiadau yn arbennig gan y rhai o grwpiau nad ydynt wedi’u cynrychioli’n ddigonol o fewn gweithlu'r Brifysgol, fel y rhai sy'n uniaethu fel LGBT+, o gefndiroedd ethnig leiafrifol neu'r rhai ag anableddau. Er mwyn helpu ein cyflogeion i sicrhau cydbwysedd rhwng eu gwaith a’u bywydau personol, byddwn hefyd yn ystyried cynigion i weithio’n hyblyg neu rannu swydd.

    Mae Prifysgol Caerdydd wedi llofnodi Datganiad ar Asesu Ymchwil (DORA) San Francisco, sy'n golygu y byddwn, wrth wneud penderfyniadau cyflogi a dyrchafu, yn gwerthuso ymgeiswyr ar sail safon eu hymchwil, nid ar sail metrigau cyhoeddi na'r cyfnodolyn y mae'r ymchwil wedi’i chyhoeddi ynddo. Ceir rhagor o wybodaeth yma:  Asesu ymchwil yn gyfrifol - Ymchwil - Prifysgol Caerdydd

    Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn Gymraeg, ac ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Swyddi Eraill fel hyn

  • Advertising End DateAdvertising End Date:
    30 Gor 2026
  • Grŵp SwyddiGrŵp Swyddi
    Academaidd (gan gynnwys Addysgu, Ymchwil a Graddedigion)
  • Math o Swydd
    Ymchwil
  • ID Swydd WagID Swydd Wag:
    454
  • Cyflog a hysbysebirManylion y Cyflog:
    £33,951 - £36,636 per annum (Grade 5)
  • Statws ContractStatws Contract
    Llawn Amser
  • Math o GontractMath o Gontract:
    Tymor Sefydlog
Mwy o Wybodaeth
Diweddaraf

Senior HR Advisor

  • Dyddiad Postio'r SwyddDyddiad Postio'r Swydd:
    24 Gor 2026
  • Advertising End DateAdvertising End Date:
    07 Awst 2026
  • Grŵp SwyddiGrŵp Swyddi
    Gwasanaethau Proffesiynol (Rheoli, Gweinyddol, Arbenigwyr, Cymorth Technegol a Gweithrediadau)
  • Math o Swydd
    Staff Rheoli, Proffesiynol ac Arbenigol
  • ID Swydd WagID Swydd Wag:
    510
  • Cyflog a hysbysebirManylion y Cyflog:
    41,064
  • Statws ContractStatws Contract
    Llawn Amser
  • Math o GontractMath o Gontract:
    Tymor Sefydlog
Mwy o Wybodaeth
  • Dyddiad Postio'r SwyddDyddiad Postio'r Swydd:
    24 Gor 2026
  • Advertising End DateAdvertising End Date:
    21 Awst 2026
  • Grŵp SwyddiGrŵp Swyddi
    Academaidd (gan gynnwys Addysgu, Ymchwil a Graddedigion)
  • Math o Swydd
    Addysgu ac Ymchwil
  • ID Swydd WagID Swydd Wag:
    525
  • Cyflog a hysbysebirManylion y Cyflog:
    £41,064 - £46,049 per annum (Grade 6)
  • Statws ContractStatws Contract
    Llawn Amser
  • Math o GontractMath o Gontract:
    Penagored
Mwy o Wybodaeth
  • Dyddiad Postio'r SwyddDyddiad Postio'r Swydd:
    24 Gor 2026
  • Advertising End DateAdvertising End Date:
    07 Awst 2026
  • Grŵp SwyddiGrŵp Swyddi
    Academaidd (gan gynnwys Addysgu, Ymchwil a Graddedigion)
  • Math o Swydd
    Addysgu ac Ymchwil
  • ID Swydd WagID Swydd Wag:
    532
  • Cyflog a hysbysebirManylion y Cyflog:
    £51,573 - £56,535 per annum (Grade 7)
  • Statws ContractStatws Contract
    Llawn Amser
  • Math o GontractMath o Gontract:
    Penagored
Mwy o Wybodaeth
  • Dyddiad Postio'r SwyddDyddiad Postio'r Swydd:
    24 Gor 2026
  • Advertising End DateAdvertising End Date:
    07 Awst 2026
  • Grŵp SwyddiGrŵp Swyddi
    Academaidd (gan gynnwys Addysgu, Ymchwil a Graddedigion)
  • Math o Swydd
    Addysgu ac Ysgolheictod
  • ID Swydd WagID Swydd Wag:
    533
  • Cyflog a hysbysebirManylion y Cyflog:
    £51,573 - £56,535 per annum (Grade 7)
  • Statws ContractStatws Contract
    Llawn Amser
  • Math o GontractMath o Gontract:
    Penagored
Mwy o Wybodaeth
  • Dyddiad Postio'r SwyddDyddiad Postio'r Swydd:
    23 Gor 2026
  • Advertising End DateAdvertising End Date:
    06 Awst 2026
  • Grŵp SwyddiGrŵp Swyddi
    Academaidd (gan gynnwys Addysgu, Ymchwil a Graddedigion)
  • Math o Swydd
    Addysgu ac Ysgolheictod
  • ID Swydd WagID Swydd Wag:
    229
  • Cyflog a hysbysebirManylion y Cyflog:
    £41,064 - £46,049 per annum (Grade 6)
  • Statws ContractStatws Contract
    Llawn Amser
  • Math o GontractMath o Gontract:
    Tymor Sefydlog
Mwy o Wybodaeth
  • Dyddiad Postio'r SwyddDyddiad Postio'r Swydd:
    23 Gor 2026
  • Advertising End DateAdvertising End Date:
    06 Awst 2026
  • Grŵp SwyddiGrŵp Swyddi
    Academaidd (gan gynnwys Addysgu, Ymchwil a Graddedigion)
  • Math o Swydd
    Addysgu ac Ysgolheictod
  • ID Swydd WagID Swydd Wag:
    387
  • Cyflog a hysbysebirManylion y Cyflog:
    £41,064 - £46,049 per annum, pro rata for part time hours (Grade 6)
  • Statws ContractStatws Contract
    Rhan-amser
  • Math o GontractMath o Gontract:
    Tymor Sefydlog
Mwy o Wybodaeth
Diweddaraf

Research Associate

  • Dyddiad Postio'r SwyddDyddiad Postio'r Swydd:
    16 Gor 2026
  • Advertising End DateAdvertising End Date:
    02 Awst 2026
  • Grŵp SwyddiGrŵp Swyddi
    Academaidd (gan gynnwys Addysgu, Ymchwil a Graddedigion)
  • Math o Swydd
    Ymchwil
  • ID Swydd WagID Swydd Wag:
    389
  • Cyflog a hysbysebirManylion y Cyflog:
    £41,064 - £46,049 per annum (Grade 6)
  • Statws ContractStatws Contract
    Llawn Amser
  • Math o GontractMath o Gontract:
    Tymor Sefydlog
Mwy o Wybodaeth
  • Dyddiad Postio'r SwyddDyddiad Postio'r Swydd:
    16 Gor 2026
  • Advertising End DateAdvertising End Date:
    27 Gor 2026
  • Grŵp SwyddiGrŵp Swyddi
    Gwasanaethau Proffesiynol (Rheoli, Gweinyddol, Arbenigwyr, Cymorth Technegol a Gweithrediadau)
  • Math o Swydd
    Staff Rheoli, Proffesiynol ac Arbenigol
  • ID Swydd WagID Swydd Wag:
    358
  • Cyflog a hysbysebirManylion y Cyflog:
    £33,951 - £36,636 y flwyddyn (Gradd 5)
  • Statws ContractStatws Contract
    Llawn Amser
  • Math o GontractMath o Gontract:
    Tymor Sefydlog
Mwy o Wybodaeth
  • Dyddiad Postio'r SwyddDyddiad Postio'r Swydd:
    16 Gor 2026
  • Advertising End DateAdvertising End Date:
    06 Awst 2026
  • Grŵp SwyddiGrŵp Swyddi
    Academaidd (gan gynnwys Addysgu, Ymchwil a Graddedigion)
  • Math o Swydd
    Ymchwil
  • ID Swydd WagID Swydd Wag:
    546
  • Cyflog a hysbysebirManylion y Cyflog:
    Negotiable, based on existing pay arrangement.
  • Statws ContractStatws Contract
    Rhan-amser
  • Math o GontractMath o Gontract:
    Tymor Sefydlog
Mwy o Wybodaeth