Swyddog Cyfathrebu
Yr Is-adran Meddygaeth Seicolegol a’r Niwrowyddorau Clinigol
Yr Ysgol Meddygaeth
Coleg y Gwyddorau Biofeddygol a Bywyd
Rydym yn chwilio am Swyddog Cyfathrebu i ymuno â’r tîm cyfathrebu yn yr Is-adran Meddygaeth Seicolegol a’r Niwrowyddorau Clinigol.
Yn y rôl hon, byddwch yn gweithio fel rhan o dîm sy'n darparu cyngor a chymorth cyfathrebu proffesiynol, marchnata, digwyddiadau ac ymgysylltu i'r Is-adran Meddygaeth Seicolegol a’r Niwrowyddorau Clinigol, a chi fydd â’r prif gyfrifoldeb am waith sy'n ymwneud â rhaglen Omeg Nodau Iechyd Meddwl (MHG), a chyfrifoldeb eilaidd dros yr is-adran ehangach.
Mae rhaglen Omeg Nodau Iechyd Meddwl (MHG) yn fenter nodedig ledled y DU, a ariennir gan Lywodraeth y DU. Ei nod yw chwyldroi ein dealltwriaeth a'n ffordd o drin salwch meddwl difrifol.
Gan ehangu ar ddatblygiadau sylweddol ym maes genomeg, proteomeg, metabolomeg ac iechyd digidol, bydd y prosiect yn sefydlu carfan aml-omig fwyaf y byd o bobl sydd ag anhwylderau seicosis a hwyliau, gan ei chysylltu â data iechyd helaeth clinigol yn y byd go iawn. Bydd y seilwaith cenedlaethol newydd hwn, a ddatblygwyd mewn cydweithrediad agos ag unigolion sydd â phrofiad byw, y GIG, y byd academaidd a diwydiant, yn cyflymu'r gwaith o ddarganfod mecanweithiau biolegol, canfod biofarcwyr i greu triniaethau wedi'u personoli a gwneud y DU yn lle deniadol yn fyd-eang i arloesi ym maes iechyd meddwl.
Dan arweiniad tîm cydweithredol, cyfeillgar a hynod o arbenigol sy'n cwmpasu Prifysgol Caerdydd, Prifysgol Caergrawnt, Ymddiriedolaeth Sefydliad y GIG Caergrawnt a Peterborough, Prifysgol Caeredin, a Choleg y Brenin Llundain, mae Omeg Nodau Iechyd Meddwl yn gyfle cyffrous i gyfrannu at raglen wirioneddol arloesol sydd â'r potensial i newid bywydau a llunio dyfodol gofal iechyd meddwl.
Gwybodaeth am y rôl
Hoffem glywed gennych os oes gennych brofiad sylweddol o weithio mewn o leiaf ddau o'r meysydd canlynol:
• digidol neu’r cyfryngau cymdeithasol
• y cyfryngau a datganiadau i'r wasg
• datblygu neu reoli gwefannau
• cynllunio a chyflwyno digwyddiadau
• cyfathrebu mewnol
Swydd yn Adeilad Hadyn Ellis ar gampws Parc Cathays yw hon.
Mae’r swydd hon yn gymwys i’w chynnig ar sail gweithio cyfunol. Mae hynny’n golygu, yn ogystal â gweithio ar y campws, y cewch weithio o leoliad arall (e.e. eich cartref) rywfaint o’r amser. Mae’r Brifysgol wedi ymrwymo i gynnig yr hyblygrwydd hwn pan fo’r swydd ac anghenion busnes yn caniatáu hynny er mwyn eich helpu i sicrhau cydbwysedd rhwng eich gwaith a’ch bywyd personol.
Mae Prifysgol Caerdydd yn cynnig pecyn buddion gwych sy’n cynnwys 40 diwrnod o wyliau blynyddol, pro rata (gan gynnwys gwyliau banc), cynllun pensiwn lleol, cynllun beicio i'r gwaith a mentrau teithio eraill, cynyddrannau blynyddol ar hyd y raddfa gyflog, a mwy. Dyma le cyffrous a bywiog i weithio ynddo lle ceir llawer o heriau gwahanol. Rydym hefyd yn falch o gefnogi’r Cyflog Byw.
Sut y byddwn yn eich helpu i gyflawni’r rôl hon
Mae’n rhaid ichi fodloni rhai gofynion cyn gallu dechrau’r swydd hon (gweler ‘Meini Prawf Hanfodol’), ond bydd modd datblygu’r elfennau eraill drwy hyfforddiant neu brofiad cyffredinol yn y swydd. Ar ôl ichi ddechrau yn y swydd, rydym eisiau eich cefnogi a’ch datblygu gan ddefnyddio cyfuniad o’r canlynol i wireddu eich llawn botensial:
1. Cyfarfodydd un i un rheolaidd gyda'ch rheolwr
2. Tîm profiadol a chefnogol o'ch cwmpas
3. Eich cefnogi drwy estyn cyfleoedd ichi hyfforddi a datblygu yn ôl yr angen mewn ffyrdd sy’n berthnasol i’r swydd
4. Cynllun mentora
Cysylltwch â Dr Catrin Lewis dros e-bost,
[email protected], i gael trafodaeth anffurfiol, cyfrinachol am y rôl.
Swydd ran-amser (24.5 awr yr wythnos) yw hon ac mae ar gael am gyfnod penodol rhwng 1 Mehefin 2026 a 31 Mawrth 2028.
Cyflog: £28,031 – £31,236 y flwyddyn, pro-rata (Gradd 4). Ym Mhrifysgol Caerdydd, penodir fel arfer ar waelod y raddfa gyflog ac eithrio o dan amgylchiadau eithriadol.