Athro-Ymarferwyr yn Ysgol Optometreg a Gwyddorau’r Golwg
Mae Ysgol Optometreg a Gwyddorau'r Golwg Prifysgol Caerdydd yn chwilio am optometryddion arloesol i gefnogi addysgu o ansawdd uchel ar raglenni/modiwlau israddedig ac ôl-raddedig. Mae gennym ddiddordeb arbennig mewn ymgeiswyr sy'n frwdfrydig dros gefnogi myfyrwyr i ddatblygu fel ymarferwyr ymreolaethol, lefel Meistr, gan adeiladu ar eu dysgu clinigol yn y gwaith, ac sydd wedi ymrwymo i ddarparu profiad dysgu academaidd rhagorol, strwythuredig a chefnogol sy'n cyd-fynd â safonau proffesiynol.
Ar gyfer y swyddi newydd hyn, byddwch yn dod yn rhan o sefydliad bywiog a chefnogol sy'n cynnig ystod o fuddion gwych.
Croesewir ymholiadau anffurfiol a gellir eu cyfeirio, yn y lle cyntaf, at y Cyfarwyddwr Dysgu ac Addysgu, Dr Ashley Wood ([email protected]).
Mae'r swyddi sydd ar gael yn rhan-amser a gyda'i gilydd maent yn gyfanswm o 0.4 FTE (14 awr yr wythnos). Cytunir ar y patrwm gweithio a’r oriau ar gyfer pob swydd yn ystod y cam penodi. Efallai y bydd cyfleoedd ar gael hefyd i weithio mewn gwasanaethau clinigol y GIG o fewn yr Ysgol.
Mae'r swyddi hyn am gyfnod penodol o 3 blynedd ac fe'u cynigir ar y llwybr Addysgu ac Ysgoloriaeth. Mae'r swydd hon yn destun gwiriad GDG uwch.
Cyflog: £41,064 – £46,049 y flwyddyn, pro-rata (Gradd 6). Ym Mhrifysgol Caerdydd, bydd unigolion fel arfer yn dechrau ar waelod y raddfa gyflog, ac eithrio o dan amgylchiadau eithriadol.
Mae Prifysgol Caerdydd yn cynnig pecyn buddion gwych sy’n cynnwys 45 diwrnod o wyliau blynyddol pro rata (gan gynnwys gwyliau banc), cynllun pensiwn lleol, cynllun beicio i’r gwaith a mentrau teithio eraill, cynyddrannau blynyddol ar hyd y raddfa gyflog, a mwy. Mae’n lle cyffrous a bywiog i weithio, gyda llawer o heriau gwahanol. Rydym hefyd yn falch o gefnogi’r Cyflog Byw.
Dyddiad cau: Dydd Mawrth, 27 Hydref 2026
Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ogystal â chreu gweithle cynhwysol. Rydym o’r farn bod modd gwneud hyn drwy ddenu, datblygu a chadw ystod amrywiol o bobl o lawer o gefndiroedd gwahanol. Felly, rydym yn croesawu ymgeiswyr o bob rhan o’r gymuned, beth bynnag fo’u rhyw, eu hethnigrwydd, eu hanabledd, eu cyfeiriadedd rhywiol, eu hunaniaeth draws, statws eu perthynas, eu crefydd neu eu cred, eu cyfrifoldebau gofalu neu eu hoedran. Er mwyn helpu ein cyflogeion i sicrhau cydbwysedd rhwng eu gwaith a’u bywydau personol, byddwn hefyd yn ystyried cynigion i weithio’n hyblyg neu rannu’r swydd.