Swyddog Cyllid Ymchwil
Mae'r Gwasanaeth Ymchwil yn recriwtio ar gyfer rôl gyffrous Rheolwr Cyllid Ymchwil. Gan weithio’n rhan o’r Tîm Ymchwil Ôl-Ddyfarnu, prif bwrpas y rôl yw darparu cefnogaeth weinyddol a phroffesiynol gynhwysfawr i'r Tîm Ôl-Ddyfarnu a rhanddeiliaid i gefnogi rheolaeth effeithiol ar brosiectau/contractau ymchwil.
Byddwch yn ffurfio perthnasoedd gwaith cryf ag aelodau eraill o'r Tîm Ymchwil ehangach, cydweithwyr eraill ym maes cyllid, ac academyddion. Prif ddiben eich rôl yw:
- Rheoli’n rhagweithiol bortffolio o ymchwil a ariennir yn allanol a phrosiectau cysylltiedig ag ymchwil, o’u derbyn i’w cau, gan gynnwys sicrhau cyflawnder a chywirdeb hawliadau ac anfonebau a nodi problemau ar brosiectau. Bydd disgwyl i ddeiliaid swyddi weithio'n annibynnol a heb oruchwyliaeth am lawer o'r amser.
- Dangos ethos gwasanaeth, meithrin perthnasoedd gwaith da gyda rhanddeiliaid (yn enwedig y rhai mewn adrannau academaidd) trwy gyfathrebu agos a rhannu gwybodaeth, a chydweithio.
- Bod yn wybodus am reolau cyllidwyr a’r Brifysgol i sicrhau cydymffurfiaeth fel bod yr holl gostau perthnasol a chymwys yn cael eu hawlio, ac osgoi adfachu a sancsiynau ariannol. Cyfleu rheolau yn effeithiol i randdeiliaid mewnol.
Bydd gan yr ymgeisydd delfrydol sgiliau threfnu rhagorol, dull rhagweithiol o ddatrys problemau, a'r gallu i gydweithio'n effeithiol.
Mae’r swydd hon yn gymwys i’w chynnig ar sail gweithio cyfunol. Mae hyn yn golygu, yn ogystal â gweithio ar y campws, y cewch weithio o leoliad arall (e.e. eich cartref) rywfaint o’r amser. Mae’r Brifysgol wedi ymrwymo i gynnig yr hyblygrwydd hwn pan fo’r swydd ac anghenion y busnes yn caniatáu, a hynny er mwyn i chi allu sicrhau cydbwysedd rhwng eich gwaith a’ch bywyd personol. Mae'r Gwasanaeth Ymchwil wedi mabwysiadu dull gweithio hyblyg cyfunol, gyda staff yn mynychu'r swyddfa o leiaf 2 ddiwrnod yr wythnos a gweithio o bell am y diwrnodau sy'n weddill, yn amodol ar ofynion anghenion busnes.
Mae'r swydd hon yn llawn amser ac yn agored i hir dymor
Cyflog: £28,031 y flwyddyn (Gradd 4), gyda chynnydd blynyddol hyd at £31,326 y flwyddyn, cyflog terfynol ar ben y gradd.
Ni yw’r brifysgol fwyaf yng Nghymru. Rydym hefyd yn gyflogwr o bwys, sydd â mwy na 7,000 o staff. Rydym yn brifysgol uchelgeisiol ac arloesol mewn prifddinas hardd a llewyrchus. Gallwn roi’r cyfle i chi weithio mewn sefydliad bywiog sy’n cynnig pecyn buddion gwych a chyfleoedd i gamu ymlaen yn eich gyrfa.
Dyddiad hysbysebu: Dydd Mawrth, 13 Hydref 2026
Dyddiad cau: Dydd Mawrth, 27 Hydref 2026
Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth a chreu gweithle cynhwysol. Rydym o’r farn bod modd gwneud hyn drwy ddenu, datblygu a chadw ystod amrywiol o bobl o lawer o gefndiroedd gwahanol. Felly, rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob rhan o’r gymuned, beth bynnag fo’u rhyw, eu hethnigrwydd, eu hanabledd, eu cyfeiriadedd rhywiol, eu hunaniaeth draws, statws eu perthynas, eu crefydd neu eu cred, eu cyfrifoldebau gofalu neu eu hoedran. Rydym yn croesawu ac yn annog ceisiadau yn arbennig gan y rhai o grwpiau nad ydynt wedi’u cynrychioli’n ddigonol o fewn gweithlu'r Brifysgol, fel y rhai sy'n uniaethu fel LGBT+, o gefndiroedd ethnig leiafrifol neu'r rhai ag anableddau. Er mwyn helpu ein cyflogeion i sicrhau cydbwysedd rhwng eu gwaith a’u bywydau personol, byddwn hefyd yn ystyried cynigion i weithio’n hyblyg neu rannu swydd.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn Gymraeg, ac ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.