Cydymaith Ymchwil
Sefydliad Ymchwil Dementia y DU, Caerdydd
Yr Ysgol Meddygaeth
Coleg y Gwyddorau Biofeddygol a Bywyd
Gwahoddir ceisiadau am swydd Cydymaith Ymchwil ac Arloesi mewn Niwro-lid/Bioleg
Ategol yn Sefydliad Ymchwil Dementia y DU (UK DRI) Ysgol Meddygaeth Prifysgol
Caerdydd, ar gampws Parc y Mynydd Bychan.
Bydd y swydd hon yn ymuno â rhaglen ymchwil newydd a gefnogir gan raglen
Gymrodoriaeth Arweinwyr y Dyfodol Ymchwil ac Arloesi y DU (UKRI) a ddyfarnwyd i
Dr. Wioleta Zelek sy'n archwilio rôl niwro-lid yng nghlefyd Alzheimer (AD) a
mathau eraill o ddementia. Mae'r gwaith yn canolbwyntio ar ddiffinio rôl y
system gyflenwol yng nghlefyd Alzheimer gan ddefnyddio dulliau aml-omig
integredig, gan gynnwys trawsgrifiomeg, proteomeg a phroffilio gofodol, ac yna
dilysu swyddogaethol mewn modelau celloedd in vitro sy'n deillio o fôn-gelloedd
aml-botential cymelledig (iPSC). Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn ymchwilio i
fecanweithiau niwroimiwnedd a gyfryngir gan gyflenwadau sy'n sail i ddatblygiad
clefydau ac yn adnabod targedau therapiwtig newydd drwy ddulliau cyfrifiadurol
ac arbrofol.
Anogir
ymgeiswyr sydd ag arbenigedd mewn bioleg gyflenwol, imiwnoleg a chlefyd
Alzheimer neu brofiad perthnasol yn y diwydiant i wneud cais. Byddai profiad
mewn un neu fwy o'r canlynol yn ddymunol iawn: dadansoddi ac integreiddio
setiau data trawsgrifiomig, proteomig neu omeg gofodol; biowybodeg; modelau
niwronol a gliol sy'n deillio o fôn-gelloedd amlbotensial cymelledig dynol;
bioleg foleciwlaidd a chellog; a dilysu llwybrau clefydau yn beirianaethol.
Bydd y swydd yn
cynnwys cynhyrchu a dadansoddi atlasau aml-omig o’r ymennydd, integreiddio
setiau data ar raddfa fawr, a dilysu canfyddiadau allweddol gan ddefnyddio
microglia, astrosytau a modelau niwronol sy'n deillio o fôn-gelloedd
amlbotensial cymelledig dynol.
I gael sgwrs anffurfiol ynghylch y swydd, cysylltwch â Dr Wioleta Zelek ([email protected]).
Adran: http://medicine.cf.ac.uk/infect-immun/
Sefydliad Ymchwil Dementia y DU, Caerdydd: https://ukdri.ac.uk/centres/cardiff
Swydd amser llawn, (35 awr yr wythnos), yw hon ac mae ar gael o 1 Tachwedd 2026
am gyfnod penodol o un flwyddyn.
Cyflog: £41,064 – £46,049 y flwyddyn (Gradd 6) Ym Mhrifysgol Caerdydd, bydd
unigolion fel arfer yn dechrau ar waelod y raddfa gyflog, ac eithrio o dan
amgylchiadau eithriadol.
Mae Prifysgol Caerdydd yn cynnig pecyn buddion gwych, sy’n cynnwys 45 diwrnod o wyliau blynyddol (gan gynnwys gwyliau banc), cynllun pensiwn lleol, cynllun beicio i'r gwaith a mentrau teithio eraill, cynyddrannau blynyddol ar hyd y raddfa gyflog, a mwy. Dyma le cyffrous a bywiog i weithio, ymgymryd â llawer o heriau gwahanol ac rydym hefyd yn falch o gefnogi’r Cyflog Byw.
Dyddiad hysbysebu: Dydd Mawrth, 13 Hydref 2026
Dyddiad cau: Dydd Mercher, 28 Hydref 2026
Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac i greu amgylchedd gwaith cynhwysol. Credwn y gellir cyflawni hyn drwy ddenu, datblygu a chadw ystod amrywiol o staff o gefndiroedd gwahanol iawn. Felly, croesawn ymgeiswyr o bob rhan o'r gymuned, waeth beth fo'u rhyw, ethnigrwydd, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth draws, statws perthynas, crefydd neu gred, cyfrifoldebau gofalu, neu oedran. Wrth gefnogi ein gweithwyr i sicrhau cydbwysedd rhwng eu gwaith a'u bywydau personol, byddwn hefyd yn ystyried cynigion ar gyfer gweithio hyblyg neu drefniadau rhannu swydd.
Mae Prifysgol Caerdydd wedi llofnodi
Datganiad San Francisco ar Asesu Ymchwil (DORA), sy'n golygu y byddwn, wrth
wneud penderfyniadau cyflogi a dyrchafu, yn gwerthuso ymgeiswyr ar sail safon
eu hymchwil, nid ar sail metrigau cyhoeddi na'r cyfnodolyn y mae'r ymchwil
wedi’i chyhoeddi ynddo. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma: Asesu ymchwil yn gyfrifol – Ymchwil – Prifysgol Caerdydd
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn Gymraeg, ac ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.