Gweinyddwr Adnoddau Dynol (Cymraeg)
Coleg y Celfyddydau, y Dyniaethau a’r Gwyddorau Cymdeithasol
Mae cyfle cyffrous wedi codi i Weinyddwr Adnoddau Dynol ymuno â'r Coleg Celfyddydau, y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol. Gallai'r rôl hon fod yn gyfle i chi adeiladu ar eich profiad o swydd neu amgylchedd gweinyddol blaenorol, gan ddangos diddordeb arbennig mewn Adnoddau Dynol yn ogystal â'ch sgiliau trosglwyddadwy a'ch gallu i lwyddo yn y rôl. Dylech fod yn frwdfrydig ynghylch datblygu eich gwybodaeth a'ch sgiliau er mwyn dod yn aelod gwerthfawr o'r tîm.
Oherwydd natur y rôl hon, rhaid i'r ymgeisydd llwyddiannus allu cyfathrebu'n rhugl yn y Gymraeg a'r Saesneg, ar lafar ac yn ysgrifenedig. Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ofyniad hanfodol a byddant yn cael eu hasesu fel rhan o'r broses recriwtio.
Mae'r swydd hon yn llawn amser (35 awr yr wythnos), yn benagored ac mae ar gael yn syth
Mae Prifysgol Caerdydd yn cynnig llawer o fanteision rhagorol, gan gynnwys 40 diwrnod o wyliau blynyddol (gan gynnwys gwyliau banc), gweithio cyfunol (sy'n golygu y byddwch yn gallu gweithio gartref am beth o'ch amser), cynllun beicio i'r gwaith a mentrau teithio eraill, cynyddiadau blynyddol i fyny'r raddfa gyflog, a mwy. Mae'n lle cyffrous a bywiog i weithio, gyda llawer o heriau gwahanol ac mae'n gefnogwr Cyflog Byw balch
Am drafodaeth anffurfiol ynghylch y rôl, cysylltwch â Carys Thomas, Cynghorydd Adnoddau Dynol - [email protected]
Gellir anfon ymholiadau anffurfiol ynghylch y broses recriwtio/gwneud â'r cais i [email protected]
Cyflog £28,031 - £31,236 y flwyddyn (Gradd 4). Rhagwelwn y bydd y swydd hon yn dechrau ar waelod y raddfa.
Dyddiad hysbysebu: Dydd Gwener, 16 Hydref 2026
Dyddiad Cau: Dydd Sul, 1 Tachwedd 2026
Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth a chreu gweithle cynhwysol. Rydym o’r farn bod modd gwneud hyn drwy ddenu, datblygu a chadw ystod amrywiol o bobl o lawer o gefndiroedd gwahanol. Felly, rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob rhan o’r gymuned, beth bynnag fo’u rhyw, eu hethnigrwydd, eu hanabledd, eu cyfeiriadedd rhywiol, eu hunaniaeth draws, statws eu perthynas, eu crefydd neu eu cred, eu cyfrifoldebau gofalu neu eu hoedran. Rydym yn croesawu ac yn annog ceisiadau yn arbennig gan y rhai o grwpiau nad ydynt wedi’u cynrychioli’n ddigonol o fewn gweithlu'r Brifysgol, fel y rhai sy'n uniaethu fel LGBT+, o gefndiroedd ethnig leiafrifol neu'r rhai ag anableddau. Er mwyn helpu ein cyflogeion i sicrhau cydbwysedd rhwng eu gwaith a’u bywydau personol, byddwn hefyd yn ystyried cynigion i weithio’n hyblyg neu rannu swydd.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn Gymraeg, ac ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.