Cynorthwy-ydd
Cyllid Swyddfa Cyllid
Gweithrediadau Yr Ysgol Meddygaeth
Bydd gofyn i chi gynorthwyo â sicrhau bod gwaith Adran Cyllid yr Ysgol yn digwydd mewn ffordd hwylus a diffwdan, gan weithio yn rhan o dîm i sicrhau gwasanaeth effeithlon, effeithiol sy'n cael ei yrru gan ansawdd. Mae profiad blaenorol o weithio mewn Swyddfa Gyllid, gan gynnwys gwneud gwaith codi archebion a phrosesu anfonebau ar system cyllid gyfrifiadurol yn hanfodol.
Am ymholiadau anffurfiol cysylltwch â Nicola Pearce, Rheolwr Cyllid,
[email protected]
Mae'r swydd hon yn rhan-amser (24 awr yr wythnos), agored ac ar gael ar unwaith.
Cyflog: £25,249 - £26,093 pro rata am yr oriau a weithiwiyd (Gradd 3)
Ym Mhrifysgol Caerdydd, caiff unigolion eu penodi ar waelod y raddfa gyflog fel arfer, ac eithrio o dan amgylchiadau eithriadol.
Mae’r swydd hon yn gymwys i gael ei chynnig ar sail gweithio cyfunol. Mae hynny’n golygu, yn ogystal â threulio amser yn gweithio ar y campws, y gallwch dreulio rhywfaint o amser yn gweithio o leoliad arall, e.e. eich cartref. Mae’r Brifysgol wedi ymrwymo i gynnig yr hyblygrwydd hwn pan fo’r swydd ac anghenion y busnes yn caniatáu, a hynny er mwyn i chi allu sicrhau cydbwysedd rhwng eich gwaith a’ch bywyd personol.
Mae Prifysgol Caerdydd yn cynnig llawer o fanteision rhagorol, gan gynnwys 40 diwrnod o wyliau blynyddol (gan gynnwys gwyliau banc), cynllun pensiwn lleol, cynllun beicio i'r gwaith a mentrau teithio eraill, cynyddrannau blynyddol o fewn y raddfa gyflog, a mwy. Dyma le cyffrous a bywiog i weithio ynddo, lle byddwch yn wynebu nifer o wahanol heriau. Mae hefyd yn falch i gefnogi’r Cyflog Byw.
Dyddiad hysbysebu: Dydd Mawrth, 20 Hydref 2026
Dyddiad cau: Dydd Mawrth, 3 Tachwedd 2026
Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth a chreu gweithle cynhwysol. Rydym o’r farn bod modd gwneud hyn drwy ddenu, datblygu a chadw ystod amrywiol o bobl o lawer o gefndiroedd gwahanol. Felly, rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob rhan o’r gymuned, beth bynnag fo’u rhyw, eu hethnigrwydd, eu hanabledd, eu cyfeiriadedd rhywiol, eu hunaniaeth draws, statws eu perthynas, eu crefydd neu eu cred, eu cyfrifoldebau gofalu neu eu hoedran. Rydym yn croesawu ac yn annog ceisiadau yn arbennig gan y rhai o grwpiau nad ydynt wedi’u cynrychioli’n ddigonol o fewn gweithlu'r Brifysgol, fel y rhai sy'n uniaethu fel LGBT+, o gefndiroedd ethnig leiafrifol neu'r rhai ag anableddau. Er mwyn helpu ein cyflogeion i sicrhau cydbwysedd rhwng eu gwaith a’u bywydau personol, byddwn hefyd yn ystyried cynigion i weithio’n hyblyg neu rannu swydd.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn Gymraeg, ac ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.