Darlithydd yn y Gyfraith – Addysgu ac Ymchwil (Gradd 6/7)
Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth
Mae Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth ym Mhrifysgol Caerdydd yn dymuno penodi Darlithwyr yn y Gyfraith ar Radd 6 neu Radd 7 ar y llwybr gyrfa Addysgu ac Ymchwil.
Rydym yn recriwtio ar gyfer pedair rôl Darlithydd yn y Gyfraith mewn dwy ymgyrch recriwtio gydamserol: Addysgu ac Ysgolheictod ac Addysgu ac Ymchwil. Gellir gwneud penodiadau ar Radd 6 neu Radd 7 yn dibynnu ar brofiad, cyflawniadau a chyfnod gyrfa’r ymgeisydd.
Gwneir uchafswm o ddau benodiad dros y ddwy ymgyrch ar Radd 7, a gofynnir i’r ymgeiswyr llwyddiannus fodloni’r meini prawf Gradd 7 a nodir isod.
Rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion dawnus ac ymrwymedig sy’n gweithio mewn unrhyw faes yn y Gyfraith. Mae gennym ddiddordeb penodol mewn clywed gan ymgeiswyr y byddai eu harbenigedd yn gwella ein haddysgu a’n cryfderau academaidd mewn cyfraith fasnachol, cyfraith breifat ac eiddo, cyfraith feddygol neu gyfraith gyhoeddus.
Rydym yn chwilio am gydweithwyr sy’n angerddol dros addysg gyfreithiol ac yn ymroi i gynnig profiad rhagorol i fyfyrwyr. Bydd gan ymgeiswyr llwyddiannus hanes cryf o ragoriaeth mewn addysg ac ymchwil, neu botensial amlwg ar ei chyfer, gydag agenda ymchwil uchelgeisiol sy’n cefnogi a/neu’n ehangu cryfderau ymchwil yr Ysgol.
Fel arfer, dylai ymgeiswyr feddu ar PhD yn y Gyfraith neu ddisgyblaeth gysylltiedig erbyn i’r swydd ddechrau. Gellir ystyried ymgeiswyr sydd ar fin gorffen eu PhD ar gyfer penodiad ar Radd 6. Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan y rhai sy’n gallu dangos arbenigedd a phrofiad proffesiynol cyfatebol.
Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus hefyd yn cyfrannu at addysgu israddedig ac ôl-raddedig a arweinir gan ymchwil, bywyd ac allbynnau ymchwil yr Ysgol, cymorth a goruchwyliaeth i fyfyrwyr, ac yn helpu i lunio bywyd academaidd ehangach yr Ysgol. Byddant hefyd yn cydweithio â chydweithwyr ledled y Brifysgol ac yn cyfrannu at y gwaith o gynnal yr Adran a’r Ysgol yn effeithiol.
Mae'r rhain yn swyddi penagored. Rydym yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy’n chwilio am waith amser llawn neu ran-amser, neu sydd eisiau gweithio’n hyblyg neu rannu swydd, yn amodol ar ofynion gweithredol.
Os oes gennych ymholiadau anffurfiol am y swyddi hyn, cysylltwch â Phennaeth y Gyfraith drwy e-bostio
[email protected].
Gweler hefyd: Darlithydd yn y Gyfraith – Addysg ac Ysgolheictod (Gradd 6/7), a hysbysir yn gydamserol [ID:968].
Cyflog:
£41,885 - £46,970 y flwyddyn (Gradd 6) neu
£52,788 - £57,666 y flwyddyn (Gradd 7)
Fel arfer, bydd pobl a benodir ym Mhrifysgol Caerdydd yn dechrau ar waelod y raddfa gyflog berthnasol, heblaw o dan amgylchiadau eithriadol.
Dyddiad hysbysebu: Dydd Gwener, 16 Hydref 2026
Dyddiad cau: Dydd Mawrth, 2 Tachwedd 2026
Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth a chreu gweithle cynhwysol. Rydym o’r farn bod modd gwneud hyn drwy ddenu, datblygu a chadw ystod amrywiol o bobl o lawer o gefndiroedd gwahanol. Felly, rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob rhan o’r gymuned, beth bynnag fo’u rhyw, eu hethnigrwydd, eu hanabledd, eu cyfeiriadedd rhywiol, eu hunaniaeth draws, statws eu perthynas, eu crefydd neu eu cred, eu cyfrifoldebau gofalu neu eu hoedran. Rydym yn croesawu ac yn annog ceisiadau yn arbennig gan y rhai o grwpiau nad ydynt wedi’u cynrychioli’n ddigonol o fewn gweithlu'r Brifysgol, fel y rhai sy'n uniaethu fel LGBT+, o gefndiroedd ethnig leiafrifol neu'r rhai ag anableddau. Er mwyn helpu ein cyflogeion i sicrhau cydbwysedd rhwng eu gwaith a’u bywydau personol, byddwn hefyd yn ystyried cynigion i weithio’n hyblyg neu rannu swydd.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn Gymraeg, ac ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Mae Prifysgol Caerdydd wedi llofnodi Datganiad ar Asesu Ymchwil (DORA) San Francisco, sy'n golygu y byddwn, wrth wneud penderfyniadau cyflogi a dyrchafu, yn gwerthuso ymgeiswyr ar sail safon eu hymchwil, nid ar sail metrigau cyhoeddi na'r cyfnodolyn y mae'r ymchwil wedi’i chyhoeddi ynddo. Ceir rhagor o wybodaeth yma: Asesu ymchwil yn gyfrifol - Ymchwil - Prifysgol Caerdydd