Darlithydd yn y Gyfraith – Addysgu ac Ysgolheictod (Gradd 6/7)
Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth
Mae Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth ym Mhrifysgol Caerdydd yn dymuno penodi Darlithwyr yn y Gyfraith ar Radd 6 neu Radd 7 ar y llwybr gyrfa Addysgu ac Ysgolheictod.
Mae’r Ysgol yn dymuno gwneud pedwar penodiad mewn dwy ymgyrch recriwtio gydamserol ar gyfer Darlithwyr yn y Gyfraith: Addysgu ac Ysgolheictod ac Addysgu ac Ymchwil. Gellir gwneud penodiadau ar Radd 6 neu Radd 7 yn dibynnu ar brofiad a chyflawniadau’r ymgeiswyr llwyddiannus, gydag uchafswm o ddau benodiad dros y ddwy ymgyrch ar Radd 7. Bydd penodiad ar Radd 7 yn gofyn i ymgeiswyr fodloni’r meini prawf Gradd 7 a nodir isod.
Rydym yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy’n gweithio mewn unrhyw faes yn y Gyfraith. Yn benodol, croesewir arbenigedd sy'n cryfhau ein gallu addysgu ac academaidd mewn cyfraith fasnachol, cyfraith breifat ac eiddo, cyfraith feddygol neu gyfraith gyhoeddus.
Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn athrawon ac ysgolheigion rhagorol, neu’n dangos potensial i ddod yn rhai rhagorol. Gall ysgolheictod fod yn seiliedig ar gyfraith sylwedd, addysg gyfreithiol a/neu Ysgolheictod Dysgu ac Addysgu. Dylai ymgeiswyr feddu ar PhD – neu, ar gyfer penodiad ar Radd 6, fod yn agosáu at orffen PhD – yn y Gyfraith neu faes cysylltiedig erbyn i’r rôl ddechrau, neu feddu ar arbenigedd proffesiynol cyfatebol.
Bydd deiliaid y swydd yn cyfrannu at addysg israddedig ac ôl-raddedig, yn goruchwylio myfyrwyr fel y bo’n briodol, ac yn cyfrannu at y gwaith o weinyddu a rheoli Adran ac Ysgol y Gyfraith a’i bywyd academaidd ehangach.
Mae’r rhain yn swyddi penagored. Gellir ystyried trefniadau ar gyfer gweithio amser llawn a rhan-amser, a gweithio’n hyblyg a rhannu swydd, yn amodol ar ofynion gweithredol.
Cyfeiriwch unrhyw ymholiadau sy’n ymwneud â'r swyddi hyn at Bennaeth yr Ysgol drwy e-bostio
[email protected].
Gweler hefyd: Darlithydd yn y Gyfraith – Addysg ac Ymchwil (Gradd 6/7), a hysbysir yn gydamserol [ID:967].
Cyflog:
£41,885 - £46,970 y flwyddyn (Gradd 6) neu
£52,788 - £57,666 y flwyddyn (Gradd 7)
Fel arfer, bydd pobl a benodir ym Mhrifysgol Caerdydd yn dechrau ar waelod y raddfa gyflog berthnasol, heblaw o dan amgylchiadau eithriadol.
Dyddiad hysbysebu: Dydd Gwener, 16 Hydref 2026
Dyddiad cau: Dydd Mawrth, 2 Tachwedd 2026
Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth a chreu gweithle cynhwysol. Rydym o’r farn bod modd gwneud hyn drwy ddenu, datblygu a chadw ystod amrywiol o bobl o lawer o gefndiroedd gwahanol. Felly, rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob rhan o’r gymuned, beth bynnag fo’u rhyw, eu hethnigrwydd, eu hanabledd, eu cyfeiriadedd rhywiol, eu hunaniaeth draws, statws eu perthynas, eu crefydd neu eu cred, eu cyfrifoldebau gofalu neu eu hoedran. Rydym yn croesawu ac yn annog ceisiadau yn arbennig gan y rhai o grwpiau nad ydynt wedi’u cynrychioli’n ddigonol o fewn gweithlu'r Brifysgol, fel y rhai sy'n uniaethu fel LGBT+, o gefndiroedd ethnig leiafrifol neu'r rhai ag anableddau. Er mwyn helpu ein cyflogeion i sicrhau cydbwysedd rhwng eu gwaith a’u bywydau personol, byddwn hefyd yn ystyried cynigion i weithio’n hyblyg neu rannu swydd.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn Gymraeg, ac ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.