PEIDIWCH Â CHYFLWYNO CEISIAD AM Y SWYDD HON AR Y SYSTEM HON.
Prif Swyddog Gweithredol Cardiff Innovations Ltd
Bydd yr Universiti yn cael cymorth gan gwmni chwilio gweithredol Perrett Laver yn y broses benodi hon. Os hoffech drafod y cyfle hwn ymhellach neu os oes gennych unrhyw gwestiynau am y rôl, cysylltwch â Harvir Bains trwy [email protected] neu +44 (0)20 3928 7355.
Am ragor o fanylion, gan gynnwys gwybodaeth ar sut i wneud cais, ewch i https://candidates.perrettlaver.com/vacancies/ gan ddyfynnu’r cyfeirnod 8671.
Mae Arloesi Caerdydd Cyf. yn is-gwmni newydd sy'n eiddo llwyr i Brifysgol Caerdydd, a grëwyd i gyflymu gweithgarwch arloesi, masnacheiddio a menter ym mhob rhan o’r Brifysgol. Bydd yn cynnig cyfle i ymchwilwyr, entrepreneuriaid, partneriaid yn y diwydiant a buddsoddwyr, gan ddwyn ynghyd gweithgarwch masnacheiddio, hybu a menter mewn sefydliad pwrpasol sy'n canolbwyntio ar gyflawni effaith a thwf. Bydd yn sefydliad angori sy'n cynnig gwasanaethau arloesi i Gaerdydd a Chymru, gan helpu i wneud Prifysgol Caerdydd yn un o brifysgolion y bedwaredd genhedlaeth i genedl ddatganoledig.
Mae Arloesi Caerdydd Cyf., sy’n cael ei lansio'n ffurfiol ym mis Ebrill 2027, yn cael ei gefnogi gan un o brif brifysgolion ymchwil y DU, sy'n cynnig portffolio cynyddol o deilliannau a phartneriaethau dwfn ledled y diwydiant a’r llywodraeth. Mae gan Brifysgol Caerdydd sylfaen ymchwil ac arloesi gynhwysfawr sy'n mynd o nerth i nerth, ac rydym yn gyfrifol am grantiau sydd werth mwy na £600 miliwn. Gyda'i gilydd, mae'r cryfderau hyn yn gyfle unigryw i gyflymu twf sy'n cael ei arwain gan arloesi yng Nghaerdydd, Cymru a thu hwnt.
Mae Bwrdd Arloesi Caerdydd Cyf. bellach yn dymuno penodi ei Brif Swyddog Gweithredol cyntaf. Bydd y Prif Swyddog Gweithredol yn cael y cyfle prin i feithrin sefydliad arloesi newydd o'r bôn i’r brig, datblygu tîm sy’n perfformio’n dda, datblygu partneriaethau strategol, creu cyfleoedd i arloesi ffynnu a rhoi buddion parhaus i gymdeithas sy'n cyd-fynd â thwf economaidd a ffyniant ehangach.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cyfuno craffter masnachol ag angerdd dros arloesi. Bydd ganddynt hanes profedig o ddatblygu partneriaethau, adnabod cyfleoedd i ddatblygu a chyflawni effaith sefydliadol. Bydd modd iddynt weithio'n effeithiol ym mhob rhan o’r byd academaidd, y diwydiant, mewn llywodraethau datganoledig a chenedlaethol a chymunedau buddsoddi, gan greu'r amodau ar gyfer mentrau newydd, llwyddiant masnachol a budd economaidd a chymdeithasol hirdymor.
Rydym yn eich annog i drefnu trafodaeth gyda'n partner chwilio, Perrett Laver, i ddysgu rhagor am y cyfle.
Sut i wneud cais
Bydd cwmni recriwtio blaenllaw Perrett Laver yn cynorthwyo’r Brifysgol â’r broses o wneud y penodiad hwn. Os hoffech drafod y cyfle hwn ymhellach neu os oes gennych unrhyw gwestiynau am y rôl, cysylltwch â Harvir Bains drwy e-bostio [email protected] neu ffonio +44 (0)20 3928 7355.
Mae rhagor o fanylion, gan gynnwys gwybodaeth am sut i wneud cais ar gael drwy fynd i https://candidates.perrettlaver.com/vacancies, gan roi’r cyfeirnod 8671.
Dylai'r ceisiadau gynnwys curriculum vitae llawn sy’n rhoi manylion ynghylch profiad, hanes cyflogaeth llawn a chyflawniadau perthnasol. Dylai CVs gynnwys llythyr eglurhaol sy’n rhoi disgrifiad byr o sut mae ymgeiswyr yn bodloni'r meini prawf a amlinellir ym manyleb y person, pam mae’r sydd o ddiddordeb a'r hyn y maent yn credu y gallant ei gynnig i'r rôl.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 09:00 BST ddydd Llun 2 Tachwedd. Bydd ymgeiswyr ar y rhestr hir yn cael eu gwahodd i gyfarfodydd rhagarweiniol gyda Perrett Laver yn ystod yr wythnos sy’n dechrau ar 9 Tachwedd, ac yn dilyn hynny bydd y Pwyllgor Chwilio yn cytuno ar restr fer. Bydd cyfweliadau ac asesiadau terfynol y sawl sydd wedi cyrraedd y rhestr fer â Phrifysgol Caerdydd yn cael eu cynnal yn fuan ym mis Rhagfyr.
Mae diogelu eich data personol o’r pwys mwyaf i Perrett Laver, ac rydym yn cymryd y cyfrifoldeb hwn o ddifrif calon. Mae unrhyw wybodaeth a gesglir gan ein hadrannau masnachu yn cael ei chadw a'i phrosesu yn unol â'r ddeddfwriaeth diogelu data berthnasol. Mae’r data y byddwch yn ei roi inni’n cael ei gadw’n ddiogel yn ein cronfa ddata gyfrifiadurol a’i drosglwyddo i'n cleientiaid er mwyn eich cyflwyno chi’n ymgeisydd a/neu ystyried pa mor addas ydych ar gyfer y swydd rydych wedi mynegi diddordeb ynddi. Fel y'i diffinnir yn unol â’r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data, mae Perrett Laver yn Rheolwr Data ac yn Brosesydd Data, a ‘Buddiannau Dilys’ yw ein sail gyfreithiol dros brosesu eich data personol. Mae gennych yr hawl i wrthwynebu i’ch data gael ei brosesu yn y modd hwn. I gael rhagor o wybodaeth am hyn, eich hawliau a sut rydym yn sicrhau Diogelwch a Phreifatrwydd Data, ewch i’r ddolen ganlynol http://www.perrettlaver.com/information/privacy.
Ewch i'r ddolen ganlynol er mwyn cael rhagor o wybodaeth am y defnydd o wybodaeth bersonol a roddir gan ymgeiswyr i'r Brifysgol: https://www.cardiff.ac.uk/cy/public-information/policies-and-procedures/data-protection.
Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth a chreu gweithle cynhwysol. Rydym o’r farn bod modd gwneud hyn drwy ddenu, datblygu a chadw ystod amrywiol o bobl o lawer o gefndiroedd gwahanol. Felly, rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob rhan o’r gymuned, beth bynnag fo’u rhyw, eu hethnigrwydd, eu hanabledd, eu cyfeiriadedd rhywiol, eu hunaniaeth draws, statws eu perthynas, eu crefydd neu eu cred, eu cyfrifoldebau gofalu neu eu hoedran. Rydym yn croesawu ac yn annog ceisiadau yn arbennig gan y rhai o grwpiau nad ydynt wedi’u cynrychioli’n ddigonol o fewn gweithlu'r Brifysgol, fel y rhai sy'n uniaethu fel LGBT+, o gefndiroedd ethnig leiafrifol neu'r rhai ag anableddau. Er mwyn helpu ein cyflogeion i sicrhau cydbwysedd rhwng eu gwaith a’u bywydau personol, byddwn hefyd yn ystyried cynigion i weithio’n hyblyg neu rannu swydd.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn Gymraeg, ac ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.